Skip to main content

Mae gogoniant mwyaf Tyndyrn, yr Eglwys Othig wych, wedi sefyll yma ers dros 700 mlynedd yn croesawu addolwyr, noddwyr cyfoethog ac ymwelwyr i’r abaty tawel hwn.

Yn anffodus, doedd yr adeilad ddim i fod i oroesi heb ei do na’i ffenestri ac mae’r tywydd wedi erydu’r gwaith cerrig meddal o’r canoloesoedd dros y canrifoedd.

Mae’r Eglwys wedi bod ynghau i’r cyhoedd tra bod gwaith cadwraeth hanfodol yn cael ei gynllunio a’i wneud i atal colli’r gwaith maen a’i wneud yn ddiogel i ymwelwyr. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i ni adeiladau sgaffaldiau uchel a thrwm iawn i gyrraedd ac atgyweirio’r tywodfaen sydd wedi’i dreulio gan y tywydd ar waliau uchaf yr eglwys.

Cyn i’r gwaith cadwraeth ddechrau, rydym yn gweithio gydag Archaeoleg y Mynydd Du i ymchwilio i weld a oes unrhyw nodweddion bregus hynafol yn cuddio yn y ddaear a allai gael eu difrodi gan y sgaffald hwn.

Dyma Dr Rhys Morgan o Archaeoleg Mynydd Du yn egluro beth mae’r tîm yn ei wneud yn un o abatai Sistersaidd mawr Cymru.

Dyma’r tîm wrth eu gwaith a’r ardaloedd cloddio hyd yn hyn…

Abaty Tyndyrn – darganfyddiadau archaeolegol

Teils llawr cynhenid a ddarganfuwyd yn ystod y cam cyntaf hwn o gloddio

Abaty Tyndyrn – darganfyddiadau archaeolegol

Darnau o wydr ffenestr ganoloesol

Ymweld â Abaty Tyndyrn

Mae Archaeoleg Mynydd Du ac ArchaeoDomus yn cynnal trafodaethau ddwywaith y dydd yn yr abaty am 11am a 2pm. Holwch ein tîm o geidwaid wrth gyrraedd am fwy o wybodaeth.

Unwaith y bydd y sgaffald yn ei le, byddwn yn cynnig gostyngiad o 10% oddi ar y pris mynediad.

Bydd y disgownt yn cael ei gynnig i bob ymwelydd sy’n talu wrth i ni weithio o amgylch eglwys yr abaty, gan gyfyngu ar fynediad ar gyfer diogelwch ymwelwyr.

Mae eich mynediad yn helpu i gadw’r trysorau pensaernïol gwych hyn yn ddiogel er mwyn i ni a chenedlaethau’r dyfodol eu gwerthfawrogi a’u mwynhau.

Diolch.

Ewch i Abaty Tyndyrn am ragor o wybodaeth ac i archebu ymweliad.

Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru

Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol

Ymunwch â Cadw heddiw

Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw

  • 10% oddi ar siopau Cadw 
  • 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
  • Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
  • Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage 
  • Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn