Safle grym – crefyddol a diwydiannol
Ynghyd â Phriordy Llanddewi Nant Hodni ac Abaty Tyndyrn, adfeilion Abaty Nedd yw’r olion mynachaidd pwysicaf a mwyaf trawiadol yn de Cymru. Fe’i sylfaenwyd ym 1130 gan y marchog Normanaidd Syr Richard de Granville, ac erbyn diwedd y 13eg ganrif roedd yn un o abatai cyfoethocaf Cymru.
Roedd tua 50 o fynachod yn byw yma, ynghyd â mwy byth o frodyr lleyg a weithiai ar ystadau’r abaty ar dasgau gan gynnwys, yn ôl pob tebyg, cloddio glo at ddefnydd domestig. Yn llawer diweddarach, llaw drom y Chwyldro Diwydiannol oedd achos ei gwymp, a’r abaty’n cael ei droi’n waith mwyndoddi copr gyda ffwrneisi, gweithdai ac anheddau gweithwyr, a gwaith haearn yn gymydog drws nesaf.
Diolch byth, goroesodd yr adeg gywilyddus hon.
Gellir gweld bron holl gynllun yr abaty a’i adeiladau o hyd heddiw, gan gadarnhau pur faint yr anheddiad crefyddol llewyrchus hwn.
Expand image
Expand image
Expand image
| 1st Ebrill - 31st Mawrth | 10am-4pm |
|---|---|
|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
|
Maes parcio
Mae'r maes parcio 30m o fynedfa'r heneb (tua 4 car).
Nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anabl.
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 1 – Hygyrch
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Iechyd a Diogelwch
Mae maes parcio’r abaty gyferbyn â mynedfa'r castell, byddwch yn ymwybodol o'r traffig. Gallwch gerdded dros y bont fach os hoffech fynd am dro ar hyd y gamlas a glan yr afon.
Mae'r rhan fwyaf o'r safle yn gymharol wastad, gyda phant bach tua chefn y safle. Gallwch gyrraedd y rhan fwyaf o'r safle gan ddefnyddio'r llwybrau gro mân. Dylech fod yn ofalus yn ystod tywydd garw iawn gan y gall rhai rhannau o'r safle fod dan ddŵr.
Byddwch yn ofalus o waliau isel a allai beri i chi faglu, ac o risiau adfeiliedig nad ydynt yn arwain i unlle. Mae'n well cymryd golwg gyntaf cyn gadael i blant gael mynediad i unrhyw ardaloedd.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Cwymp sydyn
Wyneb llithrig neu anwastad
Cerrig yn disgyn
Camau serth ac anwastad
Cod post SA10 7DW
what3words: ///amodol.mewn.llogais
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol