Skip to main content
Abaty Nedd
Wedi ei gyhoeddi

Yn ddiweddar, aeth Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Diwylliant a Chwaraeon, Dawn Bowden i ymweld ag Abaty Castell-nedd i weld sut mae cynllun Cadw yn ennyn diddordeb a balchder ymhlith disgyblion ysgol leol am y safle mynachaidd trawiadol – ar garreg eu drws.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cadw wedi cysylltu ag Ysgol Gyfun Dŵr y Felin yng Nghastell-nedd i lansio cynllun Ceidwaid Ifanc ar gyfer yr abaty Sistersaidd pwysig hwn.

Mae Ceidwaid Ifanc Cymru yn rhan o fenter fwy gan Cadw - i annog pobl ifanc i gymryd perchnogaeth o'u hamgylchedd hanesyddol.

Mae gan Cadw Geidwaid Ifanc ar safleoedd yng ngogledd Cymru, ond Abaty Castell-nedd yw'r tro cyntaf iddynt gyflwyno'r cynllun yn y de.

Nod y fenter yw creu partneriaethau a mannau dysgu sy'n ategu Cwricwlwm Cymru o fewn cymunedau ac i annog y Ceidwaid Ifanc i werthfawrogi a pharchu eu henebion Cadw a'r amgylchedd hanesyddol ehangach.

Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden: 

"Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Cadw wedi cyflwyno rhaglenni arloesol i gynyddu ymgysylltiad cymunedau Cymru â safleoedd Cadw a'r amgylchedd hanesyddol ehangach.

"Mae'r gwaith hwn yn dangos y cyfraniad y gall ein treftadaeth eithriadol ei wneud i les pobl Cymru ac yn arbennig ei manteision iechyd ac addysgol.

"Mae'r ymateb i gynllun Ceidwaid Ifanc Dŵr y Felin wedi gwneud yn well nag oedd neb yn ei ddisgwyl ac rwy'n falch iawn bod Cadw a Dŵr y Felin yn cydweithio i adeiladu ar y sylfaen gref a grëwyd gan lwyddiant cychwynnol y cynllun."

Neath Abbey Young Custodians

Meddai Beverley Bowen, Pennaeth Hanes Dŵr y Felin: 

"Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweithio'n agos gyda Cadw er mwyn i'n disgyblion ddod yn Geidwaid Ifanc yn Abaty Castell-nedd.  Ar ôl cyfarfod rhagarweiniol, dangosodd nifer o ddisgyblion ddiddordeb yn y cynllun ac ers hynny maent wedi mwynhau ymweliadau arbennig â'r safle a gweithdy gydag artist proffesiynol. 

"Maent wedi gwneud gwaith ymchwil helaeth ar hanes Abaty Castell-nedd ac yn cyfarfod yn wythnosol i weithio ar greu stribed celf comig sy'n cynrychioli hanes Abaty Castell-nedd. Mae'r disgyblion hyn yn sicr yn datblygu cariad at y safle hwn a balchder ynddo ac maent yn awyddus i gynorthwyo i ddatblygu eu hamgylchedd hanesyddol.

"Yn ogystal â hyn - ar ddiwedd tymor yr haf, daeth Abaty Castell-nedd yn ystafell ddosbarth awyr agored, lle bu'r grŵp blwyddyn cyfan nid yn unig yn astudio hanes yr Abaty, ond hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau trawsgwricwlaidd gan gynnwys Mathemateg a Saesneg. 

"Roedd hwn yn brofiad dysgu digynsail ac amhrisiadwy i'r holl ddisgyblion a gadawodd pob disgybl Abaty Castell-nedd gyda gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd yr heneb wych hon sydd wedi bod ar garreg eu drws erioed!"

"Rydym yn teimlo'n gyffrous iawn i barhau â'r cynllun eleni ac rydym yn edrych ymlaen at fwy o gyfleoedd gwych i'n disgyblion."

Ers 2016, mae Cadw wedi cwblhau pedwar cam o gynllun cadwraeth arfaethedig yn Abaty Castell-nedd. Erbyn i'r pumed cam a'r cam olaf gael ei gwblhau, amcangyfrifir y bydd bron i £1.7 miliwn wedi'i wario ar atgyfnerthu a gwarchod yr adeilad mawreddog hwn. Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys rhoi to newydd ar is-grofft yr ystafell gysgu, sydd wedi atal llawer o ddŵr rhag mynd i mewn i'r ystafell hardd hon — un o ystafelloedd mynachaidd pwysicaf Cymru.

Gan weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn Croeso Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot, mae'r Abaty wedi llwyddo i sicrhau cyllid Y Pethau Pwysig i ddatblygu maes parcio penodol ger yr heneb, a fydd yn cael ei gwblhau ym mis Mawrth 2025. Mae Cynllun Dehongli newydd hefyd yn cael ei ddatblygu er mwyn i Abaty Castell-nedd adrodd stori'r heneb yn well.