Amgueddfa Cerrig Margam
Cerrig nadd gwych yn ymestyn yn ôl i wawrddydd Cristnogaeth yng Nghymru
Mae'r adeilad bychan hwn sydd drws nesaf i eglwys yr abaty canoloesol yn ddiddorol iawn ynddo'i hun – dyma un o'r ysgolion eglwysig cynharaf yng Nghymru. Ond y tu mewn mae'r stori go iawn.
Yno fe welwch gasgliad rhyfeddol o bron i 30 o gerrig a chroesau arysgrifedig, a rhai ohonynt yn dyddio o ddyddiau cynnar Cristnogaeth yng Nghymru'r chweched ganrif. Safai’r rhain yn wreiddiol fel cerrig milltir ar ffyrdd Rhufeinig – neu yn achos un ohonynt ar ben beddrod o'r Oes Efydd – a chawsant eu hailgylchu er cof am benaethiaid lleol.
Ymhlith y cerrig nadd diweddarach mae croesau pen-disg a chroesau olwyn trol gwych o'r nawfed a'r 10fed ganrif, e.e. Croes Fawr Cobelin gyda'i golygfa gerfiedig o helfa.
Yn yr oriel i fyny'r grisiau, ymhlith y cerfluniau a'r arysgrifau canoloesol o Abaty Margam, mae delw o farchog o'r 14eg ganrif. Mae wedi’i wisgo mewn maelwisg a gwelir draig fechan ar waelod ei darian. Ond efallai mai seren y sioe yw'r gargoil grotésg a gynlluniwyd i wagio dŵr glaw drwy ei ben-ôl.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
| 1st Ebrill - 30th Medi | Agor cyfyngedig |
|---|---|
| 1st Hydref - 31st Mawrth | Ar gau |
|
Ebrill – Medi: Ar agor ar ddyddiau Mercher, Sadwrn a Sul a Gwyliau Banc o 10am tan 3pm Mynediad olaf 30 munud cyn cau Hydref-Mawrth: Mae'r amgueddfa bellach ar gau a dim ond ar gael i'w hagor ar gyfer ymweliadau grŵp a drefnwyd ymlaen llaw o 10 neu fwy gyda chyfnod rhybudd o bythefnos o leiaf. I wneud cais am ymweliad, anfonwch e-bost at: CadwEstatesandProperty@llyw.cymru |
|
Gwybodaeth i ymwelwyr
Maes parcio
Mae lleoedd parcio ar gyfer 15 o geir gyferbyn â'r amgueddfa.
Nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anabl.
Mynediad i bobl anabl
Mae'r amgueddfa ar ddwy lefel. Dim mynediad i'r llawr uchaf i ddefnyddwyr cadair olwyn.Mae'r maes parcio yn agos at lwybr ar yr un lefel â'r amgueddfa/ffordd sy'n arwain at y drws.
Nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anabl.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 1 – Hygyrch
Amgueddfa
Mae amgueddfa ar y safle.
Tywyslyfr
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Iechyd a Diogelwch
Rhaid bod yn ofalus a chymryd sylw wrth ymweld â'r heneb hon. Mae'r tir y tu allan yn agored i'r elfennau naturiol ac efallai’n llithrig neu'n fwdlyd o dan draed. Rhaid ystyried pa esgidiau sy’n briodol ar gyfer y tymor cyn eich ymweliad.
Mae amgylcheddau hanesyddol adeiledig weithiau’n anwastad o dan draed gyda grisiau cul, serth ac uchder y stepiau’n amrywio. Rhaid bod yn ofalus wrth fynd i'r lefelau uwch a'r lleoedd mesanîn / balconi.
Yn aml, mae trothwyon uchel a fframiau drysau isel wrth fynd i mewn a thrwy’r mannau sydd dan do. Gofynnwn yn garedig bod unrhyw ganllaw sydd yno yn cael ei ddefnyddio'n briodol ac nad oes neb yn dringo ar neu o fewn yr heneb.
Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag disgyn mewn mannau penodol. Peidiwch â dringo dros unrhyw reiliau ac ati sydd wedi’u gosod, na dringo drwyddynt.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Camau serth ac anwastad
Wyneb llithrig neu anwastad
Cyfarwyddiadau
Google MapCod post SA13 2TA
what3words: ///gwladol.bargeinio.twmpathau
Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn