Y Castell Newydd
Castell a godwyd i oroesi
Ynghyd â’i gymdogion yng Nghoety ac Ogwr, roedd y Castell Newydd yn gwarchod y mannau croesi afon pwysig a arferai reoli mynediad i Forgannwg pan oedd llawer o’r rhan hon o’r wlad o dan reolaeth frodorol y Cymry.
Yn ôl pob tebyg, roedd y castell gwreiddiol yma yn wrthglawdd llai soffistigedig, gyda’r olion sy’n sefyll heddiw’n dyddio o gyfnod adeiladu diweddarach o adnewyddu yn y 1180au. Ar y pryd, Harri II oedd yn dal y castell, ac mae’n siŵr bod y cysylltiad brenhinol hwn yn egluro pam gafodd ei adeiladu cystal.
Gellir gweld tystiolaeth o ansawdd adeiladu uwchraddol y castell yn ei ddrws Normanaidd trawiadol, wedi’i gadw mewn cyflwr perffaith heb ei gyffwrdd bron ers y 12fed ganrif.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
| 1st Ebrill - 31st Mawrth | 10am–4pm |
|---|---|
|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
|
Gwybodaeth i ymwelwyr
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 2 – Hawdd
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Iechyd a Diogelwch
Mae parcio mewn stryd gyfagos. Gellir cael mynediad i'r heneb drwy’r drws o fewn drws y cwrtil. Yma byddwch yn cyrraedd tiroedd is ar lethr. Gan ddringo'r 8 gris carreg byddwch yn mynd i mewn i'r castell. Nid oes angen rheilen llaw yma, felly, rhaid i chi fynd yn eich blaen yn ofalus a bod yn ymwybodol o ymwelwyr eraill.
Mae tiroedd y castell yn gymharol wastad ac ar un lefel. Byddwch yn ofalus wrth gerdded drwy'r safle bod yna waliau isel sydd wedi dadfeilio.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Camau serth ac anwastad
Cwymp sydyn
Wyneb llithrig neu anwastad
Cerrig yn disgyn
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
Dim maes parcio dynodedig. Y maes parcio agosaf yw maes parcio’r Embassy (prynwch docyn o’r ciosg).
what3words - Mynedfa: ///pedol.darlun.carafannau
what3words - Parcio agosaf: ///ymlacia.synau.myfyrwyr
Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn