Skip to main content

Arolwg

Camu i’r gorffennol

Uwchben man croesi afon darluniadwy, lle mae cyfres o gerrig sarn hynafol o hyd, mae Ogwr (ynghyd â Choety a’r Castellnewydd) yn rhan o driawd o gaerau a adeiladwyd i warchod Morgannwg rhag ymosodiadau o’r gorllewin a oedd ym meddiant y Cymry.

A’r castell yn wreiddiol o bridd a phren tua dechrau’r 12fed ganrif, buan y cafodd ei atgyfnerthu â cherrig cyn cael ei gryfhau ymhellach â murlen tua dechrau’r 13eg ganrif.

Yn anarferol, nid yw’r ychwanegiadau diweddarach wedi cuddio nodweddion amddiffynnol cynharaf y castell, am fod y cloddiau a’r ffosydd a adeiladwyd adeg geni Ogwr yn glir yn y golwg o hyd. Un nodwedd wreiddiol arall yw’r ffos ddofn o gwmpas y cwrt mewnol, wedi’i dylunio i lenwi â dŵr môr adeg penllanw.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Maes parcio icon Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Mae maes parcio anwastad ar gyfer tua 20 o geir, nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anabl.

Mae'r maes parcio yn agored i lifogydd.

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

Beic
RBC Llwybr Rhif 88 (1.5m/2.4km)