Castell Coety

Adfail rhamantaidd o gastell, bwrdd stori mewn maen
Wedi’i sylfaenu’n wreiddiol tua dechrau’r 12fed ganrif, mae olion Coety yn gymysgedd o arddulliau pensaernïol sy’n rhychwantu canrifoedd ac sy’n adlewyrchu ei feddiannaeth faith. Yn y dechrau, castell gwrthglawdd oedd yma tua 1100 OC, a’r furlen a’r gorthwr carreg wedi’u hychwanegu tua diwedd y 12fed ganrif. Cafwyd gwaith ailadeiladu mawr yn y 14eg ganrif ac eto yn y 15fed ganrif, ar ôl i Owain Glyndŵr arwain gwarchae i’r castell yn ystod ei wrthryfel yn erbyn rheolaeth y Saeson. Gwnaethpwyd addasiadau pellach tua dechrau’r 16eg ganrif, gan gynnwys ychwanegu trydydd llawr.
Er bod y castell yn adfail bellach, mae nodweddion dros ben o bob oes yn taflu goleuni ar ei hanes maith a chwedlonol.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Ebrill - 31st Mawrth | Ar agor drwy’r flwyddyn |
---|---|
Ar agor drwy'r flwyddyn yng ngolau dydd |
Gwybodaeth i ymwelwyr
Croeso i gŵn
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 1 – Hygyrch
Polisi dronau
Dim ysmygu
Iechyd a Diogelwch
Mae Coety wedi'i orchuddio'n rhannol gan ffos sych. Yn ystod lefelau uchel o law cyson, gall orlifo a mynd yn ddwfn mewn rhannau.
Peidiwch â dringo i lawr i'r ffos.
Mae'r rhan fwyaf o'r ddaear yn wastad ac yn gymysgedd o lwybrau glaswellt neu raean bach. Mae yna rai darnau o greigwely hanesyddol neu waith cerrig sy'n ymwthio o’r ddaear felly byddwch yn ymwybodol ohonynt wrth gerdded o amgylch rhannau o du fewn y castell. Mae'r llwybr o amgylch y ffos yn gul mewn mannau a gall fod yn llithrig pan fydd yn wlyb.
Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag cwympo mewn ardaloedd penodol.
Gall dringo arwain at anaf difrifol. Peidiwch â dringo dros neu drwy unrhyw osodiad sefydlog.
Peidiwch â dringo i’r ardaloedd uchaf ar y safle hwn, nid ydynt yn cael eu hystyried yn ddiogel ar gyfer y cyhoedd.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael, fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health & Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Cyfarwyddiadau
Google MapCod post CF35 6BH
Parcio — un man dynodedig ar safle caled wrth fynedfa’r castell, neu parciwch yn y strydoedd preswyl cyfagos. Peidiwch â rhwystro mynediad i ddreif ein cymdogion, na’r giât cae y mae’r ffermwr yn ei defnyddio i fynd at ei dda byw.
Perthynol
Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn