Skip to main content

Hysbysiad ymwelwyr

Eiddo preifat yw tŷ Priordy Ewenni, ac nid yw yng ngofal Cadw. Wrth ymweld ag Eglwys Priordy Ewenni, parchwch breifatrwydd preswylwyr tŷ Priordy Ewenni.

Diolch yn fawr.

Arolwg

Anheddiad crefyddol anarferol o ryfelgar

Sefydlwyd Priordy Ewenni ym 1141 gan Maurice de Londres yn un o ganghennau abaty Benedictaidd Caerloyw, ac eglwys, tŷ offeiriad a chroesfâu’r priordy hwn yw’r goreuon sydd wedi goroesi o bensaernïaeth Romanésg Normanaidd yn y rhan hon o Gymru. Yn hynod hefyd y mae amddiffynfeydd annodweddiadol o gadarn yr anheddiad, sy’n cynnwys waliau a phyrth trawiadol y gellir eu gweld hyd heddiw.

Nid yw’n gwbl glir pam y byddai angen y fath amddiffynfeydd ar le bach a chymharol ddi-nod fel Ewenni: a gawsant eu hadeiladu i dynnu sylw yn hytrach nag amddiffyn? Er nad oedd gan y waliau amddiffynnol lawer o ran ynddi, mae’n siŵr, mae Priordy Ewenni wedi mwynhau bywyd hir a gweithgar - mae corff Normanaidd yr eglwys yn dal i wasanaethu’n eglwys blwyf leol.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Maes parcio icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Lleoedd parcio ar gyfer 7 car ar gael, nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anabl.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

Rheilffordd
Gorsaf Pen-y-bont 2.8m (4.5km)
Beic
RBC Llwybr Rhif 88 (0.6mllr/0.9km)

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50