Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Abaty Tyndyrn
Wedi ei gyhoeddi

Mae Cadw yn arwain rhaglen uchelgeisiol bum mlynedd o hyd o waith cadwraeth hanfodol yn Abaty eiconig Tyndyrn.

Mae gogoniant mwyaf Tyndyrn, sef yr Eglwys Gothig anhygoel, wedi sefyll ar lannau’r Afon Gwy ers dros 700 mlynedd. Dros y canrifoedd, mae’r tywydd wedi erydu’r gwaith carreg meddal canoloesol, a bellach mae prosiect cadwraeth mawr yn mynd rhagddo er mwyn diogelu’r heneb a sicrhau ei bod yn ddiogel ar gyfer ymwelwyr.

Mae ymchwiliadau archaeolegol wedi dechrau ar y safle er mwyn helpu i lywio’r gwaith cadwraeth, a fydd yn mynd i’r afael ag erydiad naturiol a hindreuliad ar dywodfaen bregus 750 mlwydd oed yr Eglwys Abadol. Mae hyn yn cynnwys cofnodi olion yr adeilad yn fanwl, a gwaith cloddio er mwyn helpu i ddeall natur yr archaeoleg o dan lefel y ddaear.

Abaty Tyndyrn / Tintern Abbey

Bydd angen sgaffald trwm ac uchel iawn i gyrraedd tywodfaen waliau uchaf yr eglwys, sydd yn frau ac wedi eu treulio gan y tywydd. Cyn gosod y sgaffald, mae Archaeoleg Mynydd Du ac ArchaeoDomus wedi eu comisiynu i gynnal gwerthusiadau archaeolegol – er mwyn osgoi unrhyw nodweddion hynafol bregus sydd wedi eu claddu yn y ddaear y gellid eu difrodi, ac er mwyn sicrhau bod sylfaen sefydlog i’r sgaffald.

Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw:

“Ers mwy na 700 mlynedd mae eglwys yr abaty wedi croesawu addolwyr, noddwyr cyfoethog ac ymwelwyr i’r lleoliad heddychlon hwn – ac unwaith eto mae angen ychydig o sylw arno. Mae maint a natur y prosiect yn golygu mai hwn yw’r prosiect cadwraeth mwyaf uchelgeisiol ac arloesol i Cadw ymgymryd ag ef ers degawdau.

Bydd y prosiect cadwraeth hwn yn cynyddu’n dealltwriaeth o Abaty Tyndyrn, ei hanes, ei adeiladau, a’i archaeoleg yn sylweddol, a bydd yn diogelu’r safle ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. 

Hon fydd blwyddyn gyntaf archwiliad uchelgeisiol iawn i hanes claddedig Abaty Tyndyrn, a bydd yn ymestyn o ben dwyreiniol yr Eglwys i’r rhan fwyaf o du mewn yr eglwys a’r tir sy’n ei hamgylchynu dros y blynyddoedd nesaf.”

Ynghyd â rhaglen o ddadansoddi adeiladwaith, ymchwil hanesyddol ac arolwg geoffisegol, bydd canlyniadau’r gwaith cloddio yn cael eu cyflwyno i’r cyhoedd ar ddiwedd y prosiect a byddant yn gwella’r hyn rydym yn ei wybod am Abaty Tyndyrn ac o gymorth wrth ei reoli a’i gynnal a’i gadw yn y dyfodol.

Dywedodd Richard Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Archaeloeg Mynydd Du:

“Rydym wedi cyffroi o gael cefnogi Cadw gyda’r rhaglen gadwraeth bwysig uchelgeisiol hon ar gyfer Eglwys Abaty Tyndyrn. Dyma fydd y tro cyntaf i gymaint o archwilio manwl gael ei wneud i’r Eglwys Abadol ers pan fu’r Weinyddiaeth Gwaith yn gwneud gwaith tirlunio a chloddio bron i ganrif yn ôl, ac mae’n gyfle cyffrous inni ddysgu mwy am yr adeilad mawreddog.

Ar hyn o bryd, rydym yn archwilio rhan helaeth o’r eglwys ac yn cofnodi’r heneb gan ddefnyddio’r technegau cofnodi archaeolegol digidol arloesol diweddaraf. Rydym yn defnyddio dulliau ffotogrametreg a laser sydd ar flaen y gad, yn ogystal â meddalwedd ddigidol bwrpasol i gofnodi’r gwaith archwilio mewn 3D. Bydd hyn yn darparu cofnod manwl, cyfannol a pharhaus ar gyfer y dyfodol. 

Hyd yma rydym wedi adfer nifer o arteffactau diddorol o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg at y cyfnod modern. Mae’r rhain yn cynnwys darnau o wydr ffenestri canoloesol prin, teils llawr, crochenwaith, a darnau arian o gyfnodau Harri III (1216-72), Siôr III (1760-1820), a hyd at y Cyfnodau Fictoraidd ac Edwardaidd.”

Abaty Tyndyrn / Tintern Abbey

Dywedodd Ross Cook, Archaeolegydd Adeiladau a Dendrocronolegydd yn ArchaeoDomus:

“Ni welwyd archwiliadau o natur a chwmpas yr archwiliadau yn Nhyndyrn o’r blaen, a byddant yn darparu’r cofnod mwyaf cynhwysfawr o Heneb Gofrestredig yng Nghymru. 

Bydd y rhaglen o gofnodi adeiladau yn archwilio pob modfedd o’r heneb ac yn creu cronfa ddata ‘fyw’ o wybodaeth yn ymwneud â’i gyflwr cyn gwneud gwaith cadwraeth arno ac ar ôl hynny, ei ddatblygiad hanesyddol, a’i gyflwr. Bydd modd ychwanegu at hyn yn y dyfodol er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli’r safle hardd a phwysig hwn. Mae’n brosiect cyffrous iawn i fod yn rhan ohono, ac mae’n wych gweithio ochr yn ochr â Cadw a thîm gwych gan gynnwys arbenigwyr cydnabyddedig mewn hanes Sisteraidd a chadwraethwyr gwaith maen.

Mae’r gwaith cloddio eisoes wedi bod o gymorth i wella ein dealltwriaeth o waith adeiladu a datblygiad yr Eglwys Abadol yn y byd canoloesol cyn ac ar ôl y Diwygiad. Rydw i ac Archaeoleg Mynydd Du yn edrych ymlaen at rannu’n canfyddiadau yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.”

Bydd ffensys o amgylch yr ardaloedd lle mae’r gwaith cloddio yn cael ei wneud mewn camau dros y prosiect pum mlynedd, er mwyn gwarchod y cyhoedd a’r archaeoleg.  Bydd tîm y Mynydd Du yn rhoi sgyrsiau ddwywaith y dydd (dydd Llun i ddydd Gwener am 11am a 2pm) hyd at ddiwedd Mehefin o fan gwylio diogel yn ystlys ddeheuol yr eglwys.

Bydd cam cyntaf y gwaith cloddio yn dod i ben yn gynnar ym mis Gorffennaf, a gobeithir y bydd gwaith cadwraeth yn rhan ddwyreiniol yr eglwys yn dechrau yn ddiweddarach yn 2023.

Mae Abaty Tyndyrn yn dal i fod ar agor, fodd bynnag mynediad cyfyngedig fydd i rai rhannau o du mewn yr eglwys abadol drwy gydol y prosiect.