Skip to main content

Arolwg

Olion helaeth muriau trefol canoloesol 

Wedi’u hadeiladu gan yr arglwydd Normanaidd Roger Bigod III rhwng 1272 a 1278 pan aeth ati i wneud gwelliannau i’r castell, mae muriau Cas-gwent yn dal yn nodwedd drawiadol ar y dref heddiw. Yn sefyll hyd at 13 troedfedd/4m o uchder, roeddent yn ymestyn yn wreiddiol am bron dri chwarter milltir o ben gorllewinol y castell yr holl ffordd i Afon Gwy yn y de, yn amgáu’r dref ganoloesol, y porthladd ac ardal agored fawr o berllannau a dolydd. Mae darnau helaeth o’r wal yn dal i sefyll, ynghyd â phorth y dref ac olion nifer o’r 10 tŵr hanner crwn a safai ar ffurf reolaidd.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Cyfarwyddiadau

Ffordd
O’r castell, ar draws y dref, i Afon Gwy.
Rheilffordd
Cas-gwent 400m/437llath llwybr Caerdydd-Caerloyw-Birmingham.
Beic
RBC Llwybr Rhif 42 Ar y Llwybr

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50