Drysau Agored - Castell Dinbych
Gyda thros hanner milltir o furiau tref, mae Castell Dinbych yn gaer glasurol o oes Edward.
Yn sgîl ymgyrchoedd llwyddiannus Edward I yn yr ardal yn y 13eg ganrif, crewyd bwrdeistref Seisnig yn Ninbych o 1282 ymlaen. Adeiladodd ar ben yr hyn a oedd yn gadarnle traddodiadol Cymreig. Wrth wneud hynny, sicrhaodd fod olion Dafydd ap Gruffudd, y deiliad blaenorol anlwcus, yn cael eu gwaredu am byth.
Rhoddwyd y cyfrifoldeb o reoli'r ardal i Henry de Lacy, un o gadlywyddion ffyddlon y Brenin, a chafodd y dasg o adeiladu'r castell newydd. Ni allai fethu gyda meistr saer maen y brenin, James of St George, yn ei gynorthwyo.
Fodd bynnag, ni fu'r gwaith yn hollol ddidrafferth. Cipiwyd y castell yn 1294 tra'r oedd yn cael ei adeiladu yn dilyn gwrthryfel Cymreig o dan arweiniad Madog ap Llywelyn, ond nid oedd yn hir cyn i Edward ailafael arno a pharhau â'r rhaglen adeiladu. Gellir gweld dau gam y gwaith adeiladu. Nodir y gwaith a wnaethpwyd ar ôl y gwrthryfel gan gerrig o liw gwahanol, llenfuriau tewach a thyrau onglog fel y rhai a geir yng Nghaernarfon.
Nid oes angen archebu lle.