Beth am Ddarganfod ... Y Gair Printiedig
Dyma’r argraffydd Francesca Kay yn dangos sut i osod teip ac argraffu yn yr hen ffordd.
Bydd Francesca yn gwneud print llythrenwasg i chi gyda’i hen wasg argraffu bwrdd, gan esbonio sut y trawsnewidiwyd y byd gan y sgil hynafol hwn. Bydd hi hefyd yn dweud wrthych sut mae rhai o’n hymadroddion cyffredin yn dod o’r byd llythrenwasg.
Dewch i ddysgu sut i wneud argraff dda!
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Maw 12 Awst 2025 |
10:00 - 16:00
|