Camwch yn ôl mewn amser a phrofwch alawon hudol y canol oesoedd gyda'r cerddorion Marco Cannavo, Steve Tyler a Ricardo De Noronha.
Byddant yn arddangos eu casgliad o offerynnau cerdd ac yn rhyngweithio ag ymwelwyr i drafod eu cerddoriaeth a'u hofferynnau drwy gydol y dydd, gyda pherfformiadau am 11am, 1pm a 3pm.
O ganeuon serch y trwbadwriaid i'r cyfansoddiadau cysegredig i anrhydeddu’r Forwyn Fair, ni fyddwch am golli'r daith gerddorol gyfareddol hon, sy’n arddangos synau atgofus yr Hyrdi-Gyrdi, y Delyn ac Offerynnau Taro.
Nid oes angen i chi archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn.
| Categori | Price |
|---|---|