Cwest y Marchog
Mae Gareth y gwarchodwr dan hyfforddiant i fod i raddio yfory, ond mae'r gwarchodwyr yng Nghastell Conwy wedi chwarae cast arno ac wedi cuddio ei wisg a'i arfau o gwmpas y castell.
Allwch chi ddod o hyd i'w wisg cyn iddo raddio? Mae Gareth wedi gadael rhai danteithion Pasg i'w rhoi i unrhyw un sy'n helpu.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.