Dirgelwch Llofruddiaeth Ganoloesol
Mae hi’n 1487 ac mae Harri VII (Harri Tudur) wedi bod yn frenin am bron i ddwy flynedd ond mae llawer o bobl o hyd nad ydynt yn hoff iawn ohono ef na'i ddilynwyr.
Ymunwch â ni yng nghastell Rhaglan i ddarganfod pwy sydd wedi cyflawni'r drwgweithredoedd a pham. Byddwch yn dditectif a helpu i ddatrys y drosedd a darganfod y sawl sy’n euog, gyda gwobr i'r sawl sy'n canfod pwy oedd yn gyfrifol a pham.
Gwersyll hanes byw, arfau ac arfwisgoedd ac arddangosfeydd eraill trwy gydol pob dydd.
Nid oes angen i chi archebu lle ar gyfer y digwyddiad hwn.
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 25 Mai 2025 |
11:00 - 15:30
|
Llun 26 Mai 2025 |
11:00 - 15:30
|