Gweithdai Maelwisg
Dysgwch sut i wneud darn o faelwisg ar dir canoloesol Castell Cas-gwent.
Byddwch yn cael hyfforddiant arbenigol gan y gwneuthurwyr mael, Mark Hale a Phil Parkes, (enillydd Gwneuthurwr y Flwyddyn Cymru 2024 Heritage Crafts) a fydd yn dangos sut i gysylltu cylchoedd gyda rhybedi, er mwyn i chi allu creu darn bach o fael i fynd adref gyda chi.
Bydd yr holl ddeunyddiau ac offer yn cael eu darparu. Oedran ieuengaf 10+; rhaid i bob plentyn o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn (angen tocyn ar wahân).
Bydd y sesiynau'n para tua 45 munud - am 10.30am, 11.30am, 1.30pm, 2.30pm. Cyrhaeddwch y castell 10 munud cyn i'ch sesiwn ddechrau os gwelwch yn dda.
Mae hwn yn ddigwyddiad â thocynnau ac fe'ch cynghorir yn gryf i archebu.
Rhaid prynu mynediad cyffredinol i'r castell hefyd, naill ai ymlaen llaw, ar-lein neu ar ôl cyrraedd.
Prisiau
| Categori | Price |
|---|---|
| Tocyn digwyddiad |
£6.00
|
|
*ynghyd â phris mynediad cyffredinol ar gyfer y castell |
|
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 11 Ebr 2026 |
10:30 - 15:15
|
| Archebwch | |
| Categori | Price |
|---|---|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
| Oedolyn |
£10.00
|
| Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 plentyn) |
£32.00
|
| Teulu (1 oedolyn a hyd at 3 plentyn) |
£22.00
|
| Person Anabl a Chydymaith |
Am ddim
|
| Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr* |
£7.00
|
| Pobl hŷn (Oed 65+) |
£9.00
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim *Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
|