Dysgwch neu datblygwch y grefft o ffeltio nodwydd gyda’r artist ffibr a chlai clodwiw Emma Bevan (Woven Earth Studio).
Dathlu’r Hydref, byddwn yn creu ein tirwedd ein hunain drwy ffeltio â nodwyddau, gan ddefnyddio cnu a ffibrau cynhenid wedi eu caffael yn foesegol.
Dewch â ffotograff neu ddelwedd (naill ai ar eich ffôn neu wedi'i argraffu) o olygfa sydd wedi eich ysbrydoli, wedi dod â llawenydd i chi, neu y mae gennych atgofion melys ohono.
Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer pob lefel, gan gynnwys i’r sawl heb unrhyw brofiad blaenorol, gan y bydd Emma yn eich helpu a'ch arwain.
Bydd pob un ohonoch yn mynd â'ch creadigaeth unigryw eich hun adref, yn ogystal â dysgu sgiliau newydd a mwynhau profiad hwyliog gyda'ch gilydd. P'un a ydych chi'n dod fel grŵp neu ar eich pen eich hun, mae croeso cynnes i bawb.
Dewch â bwyd a diod gyda chi i’r dosbarth, a dillad cynnes rhag ofn i'r tymheredd ostwng.
Darperir yr holl offer a deunyddiau.
Bydd angen tocyn ac mae’n hanfodol eich bod yn archebu ymlaen llaw.
Mae'r tocynnau yn cynnwys mynediad cyffredinol i'r castell.
Dylech gyrraedd 10 munud cyn i'ch sesiwn ddechrau.
Addas ar gyfer oedran 12+.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 10 Hyd 2026 |
10:00 - 13:00
|
| Archebwch | |