Drysau Agored - Yr Ysgwrn
Ffermdy Cymreig symbolaidd a chartref un o feirdd mwyaf adnabyddus Cymru. Mae’r Ysgwrn yn ffermdy carreg traddodiadol Gymreig sy’n sefyll yng nghanol prydferthwch naturiol Parc Cenedlaethol Eryri. Ar droad yr 20fed ganrif, daeth yn symbol cenhedlaethol o golled y Rhyfel Byd Cyntaf yn ogystal â diwylliant barddol Cymreig. Mae’n fwyaf adnabyddus fel cartref y bardd, Hedd Wyn, a gollodd ei fywyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae ymweld â'r Ysgwrn yn brofiad unigryw a hudolus. Dewch i fwynhau llonyddwch a heddwch y safle arbennig hwn.
Byddwn yn cynnig mynediad am ddim i'r Ysgwrn dros un penwythnos. Mae'n hanfodol archebu lle ymlaen llaw.
Archebwch lle drwy ebostio yr.ysgwrn@eryrillyw.cymru neu ffonio 01766 772 508. Bydd cyfanswm o 65 o leoedd ar gael ar bob diwrnod (x2 = 130 o leoedd).
Cyfeiriad – Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, Gwynedd, LL41 4UW.
Mae arwydd i'r Ysgwrn (arwyddion treftadaeth brown) o'r A470 yn Nhrawsfynydd.
Cofiwch, os gwelwch yn dda, fod Yr Ysgwrn yn fferm weithredol ac am natur wledig yr adeiladau; dylid gwisgo dillad addas ac esgidiau cadarn. Mae mynediad i bawb ar gael drwyddi draw.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Medi 2025 |
10:30 - 16:00
|
Sul 21 Medi 2025 |
10:30 - 16:00
|