Celf yn yr Amffitheatr
Fel rhan o Bartneriaeth Caerllion Rufeinig, rydyn ni’n galw ar artistiaid i ymuno â ni yn yr amffitheatr ar gyfer digwyddiad celf torfol.
Cewch eich ysbrydoli gan yr amffitheatr Rufeinig anhygoel - i baentio, darlunio, tynnu lluniau neu greu celf mewn unrhyw ffordd rydych chi'n ei ddewis. Cwblhewch y gwaith mewn diwrnod (yn yr awyr agored) neu ewch â’ch brasluniau i ffwrdd i’w gorffen yn ddiweddarach.
Mae'r sesiwn hon yn agored i bob lefel, o ddechreuwyr i artistiaid proffesiynol. Dewch am y diwrnod cyfan neu galwch heibio am awr neu ddwy. Dewch â phicnic a threulio’r diwrnod cyfan yma.
Gwahoddir artistiaid i gyflwyno eu gwaith ar gyfer arddangosfa gelfyddydol ar thema Rufeinig yn Amgueddfa Rufeinig Caerllion, fel rhan o Stiwdios Agored Caerllion 2026. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 1 Mehefin 2026.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â -
Caerleon.Community@museumwales.ac.uk
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 11 Ebr 2026 |
10:00 - 16:00
|