Ymunwch â Meistr Plas Mawr a'i deulu, wrth iddyn nhw baratoi i gynnal un o bartïon Calan Gaeaf chwedlonol Robert Wynne.
Cyfle i ryngweithio â chymeriadau hanesyddol wrth iddyn nhw eich diddanu â straeon llên gwerin lleol, ac archwilio ofergoelion Cymru’r cyfnod Elisabethaidd yn y tŷ hardd hwn sydd wedi'i gadw'n arbennig.
Manteisiwch ar y cyfle i brofi ochr fwy arswydus y tirnod eiconig Cymreig hwn.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 31 Hyd 2026 |
10:00 - 15:00
|
| Categori | Price |
|---|---|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
| Oedolyn |
£10.40
|
| Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 plentyn) |
£33.30
|
| Teulu (1 oedolyn a hyd at 3 plentyn) |
£22.90
|
| Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
| Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr* |
£7.20
|
| Pobl hŷn (Oed 65+) |
£9.30
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. *Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Noder nad yw gostyngiadau aelodaeth partner wedi'u cynnwys yn y cynnig Lleoliad Ar y Cyd. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
|