Mae’n Noswyl yr Holl Saint ym mlwyddyn Ein Harglwydd, 1585, ac mae llofruddiaeth, drygioni ac anhrefn yn rhemp trwy neuaddau Plas Mawr.
Cafwyd hyd i Henry Bellingham, tirfeddiannwr lleol amlwg a ffrind personol Meistr y Tŷ, Robert Wynne, yn farw mewn amgylchiadau dirgel. Wrth i sibrydion ledu am ysbrydion, am ddewiniaeth ac am ddigwyddiadau goruwchnaturiol, mae trigolion y tŷ wedi ymgynnull i geisio atebion i farwolaeth drasig Bellingham ac maen nhw angen eich cymorth chi ar frys.
Oes pwerau tywyll ar waith yma, neu a oes rhywun wedi defnyddio ofergoelion lleol i guddio trosedd ofnadwy? Allwch chi ddatrys dirgelwch llofruddiaeth Plas Mawr cyn i enw da Robert a'i aelwyd gael ei ddifetha am byth?
Amseroedd y digwyddiad –
18.30 - 19.45,
20.15 - 21.30.
Cyrhaeddwch 15 munud cyn eich amser penodol.
Mae angen archebu lle. Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw - ar-lein neu ar y safle.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 31 Hyd 2026 |
18:30 - 19:45
20:15 - 21:30
|
| Archebwch | |