Ffuredau a Hebogau
Mae ffuredau wedi cael eu defnyddio mewn helfeydd ers yr hen ddyddiau.
Daethon nhw’n fwyfwy dof a thyfu mewn poblogrwydd yn ystod yr Oesoedd Canol, yn enwedig ymhlith aelodau o’r teulu brenhinol ac uchelwyr. Dewch i wylio’r creaduriaid chwim, ystwyth hyn wrth iddyn nhw rasio ei gilydd o amgylch y castell.
Hefyd, dewch i weld yr adar ysglyfaethus niferus yn hedfan ac yn gorffwys - o gyflymder yr hebog tramor chwim i sgiliau hedfan rhyfeddol y barcud coch, y dylluan hoffus a mwy. Bydd eu hyfforddwyr gwybodus wrth law i ateb cwestiynau ac i siarad am yr adar godidog hyn.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Iau 28 Awst 2025 |
11:00 - 16:00
|