Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Castell Rhuddlan

Campwaith peirianyddol anhygoel sy’n dal i dra-arglwyddiaethu uwchlaw Afon Clwyd

Hoffai’r Brenin Edward i'w gestyll fod wedi’u lleoli ar yr arfordir. Roedd hynny’n fwy diogel. Pe bai ei ymgyrch ddidostur i daro'r Cymry yn mynd yn drafferthus, yna byddai modd o hyd i unrhyw gyflenwadau gyrraedd ar y môr.

Yn Rhuddlan, ymhell ynghanol y berfeddwlad, y bwriad yn hytrach oedd defnyddio afon. Ond roedd yna broblem - doedd afon droellog Clwyd ddim yn hollol yn y lle iawn. Felly dyma Edward yn gorfodi cannoedd o gloddwyr ffosydd i ddyfnhau a dargyfeirio’i chwrs.

Dros saith ganrif yn ddiweddarach mae Rhuddlan yn dal i edrych fel castell y bu’n werth symud afon ar ei gyfer. Dechreuwyd adeiladu yn 1277, a hwn oedd y cyntaf o'r cestyll consentrig chwyldroadol, neu’r cestyll ‘muriau o fewn muriau’, a gynlluniwyd gan y prif bensaer James of St George.

Y cadarnle mewnol siâp diemwnt gyda’i borthdai â’u dau dŵr oedd y rhan fwyaf trawiadol. Roedd y cadarnle hwn wedi’i leoli y tu mewn i gylch o furiau â thyrrau is. Ymhellach y tu hwnt iddo, ceid ffos sych ddofn wedi’i chysylltu ag Afon Clwyd.

Roedd y datganiad garw hwn o fryd a bwriad Edward yn gwarchod tref newydd a chanddi amddiffynfeydd ffos o’i hamgylch. Mae amlinelliad clir o gynllun grid canoloesol y strydoedd i’w weld hyd heddiw yn Rhuddlan.

Sut i ymweld

  • prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd neu archebwch ar-lein i arbed 5%*
  • gallwch weld ein hamseroedd agor a'n prisiau isod
  • cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.

*Mae archebu ar-lein yn sicrhau’r pris gorau ar gyfer eich ymweliad.

Gallwch archebu tocynnau hyd at 24 awr cyn eich ymweliad.

Mae prisiau tocynnau ar-lein yn cynnwys gostyngiad o 5%; ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Mwy am Gastell Rhuddlan

Amseroedd agor a phrisiau

Amseroedd agor

1st Ebrill - 31st Hydref 10am-5pm (Ar gau Mawr-Merch)
1st Tachwedd - 2nd Tachwedd 10am-4pm
3rd Tachwedd - 1st Ebrill Closed

Mynediad olaf 30 munud cyn cau


 

Prisiau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£6.50
Teulu*
£20.70
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr**
£4.50
Pobl hŷn (Oed 65+)
£5.80

Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir 

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

**Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn.

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein).

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£6.20
Teulu*
£19.80
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr**
£4.30
Pobl hŷn (Oed 65+)
£5.50

Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir 

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

**Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn.

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein).

Gwybodaeth i ymwelwyr

Canllaw mynediad icon

Canllaw mynediad

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

Castell Rhuddlan — Canllaw Mynediad

Sylwer: Nid oes toiled ar y safle.

Mae toiledau cyhoeddus o fewn pellter cerdded byr ar Princes Road (LL18 5PT). Ewch ymlaen mewn llinell syth allan o gatiau'r maes parcio, heibio Lôn Hylas ar y dde, yna cymerwch y troad cyntaf i'r chwith i Stryd y Senedd. Dri chwarter o'r ffordd i lawr ar y dde mae maes parcio bach: cerddwch drwy hwn i lwybr troed/ramp ar yr ochr arall, yna croeswch y ffordd i’r toiledau cyhoeddus ar Princes Road.
 

Lle i gadw beiciau icon

Lle i gadw beiciau

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.

Maes parcio icon

Maes parcio

Mae lleoedd parcio ar y safle ar gyfer tua 25.

Croeso i gŵn icon

Croeso i gŵn

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Pwyntiau gwefru coir trydan icon

Pwyntiau gwefru coir trydan

Dau bwynt gwefru trydan Math 2 (22kW) ar gael ym maes parcio’r castell — tâl yn daladwy i’w defnyddio

Clyw cludadwy icon

Clyw cludadwy

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Gorsaf Ail-lenwi â Dŵr icon

Gorsaf Ail-lenwi â Dŵr

Mae gorsaf ail-lenwi â dŵr ar gael ar y safle hwn.

Anhawster cerdded icon

Anhawster cerdded

Tirwedd: Lefel 1 – Hygyrch

Siop roddion icon

Siop roddion

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Lluniaeth icon

Lluniaeth

Mae lluniaeth ysgafn ar gael.

Llogi Safle icon

Llogi Safle

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Tywyslyfr icon

Tywyslyfr

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Polisi dronau icon

Polisi dronau

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Dim ysmygu icon

Dim ysmygu

Ni chaniateir ysmygu.

Ymweliadau ysgol icon

Ymweliadau ysgol

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Iechyd a Diogelwch icon

Iechyd a Diogelwch

Mae castell Rhuddlan wedi'i leoli ar un o'r ffosydd sych mwyaf yn ystad Cadw, ac mae ganddo fannau gwylio isel ac uchel.

Rhaid bod yn ofalus i osgoi defnyddio'r llethr fel llwybr uniongyrchol i lawr i'r tŵr ar ochr dde'r safle.

Osgowch sefyll ar unrhyw ardaloedd o laswellt heb eu torri; er ein bod yn cynyddu bioamrywiaeth yma, rydym hefyd yn nodi'r llwybr mwyaf diogel o amgylch y safle.

Mae’r mynediad i lawr i'r ffos trwy set o risiau hanesyddol; mae'r rhain yn anwastad a gallant fod yn llithrig pan fyddant yn wlyb. Does dim canllawiau felly byddwch yn ofalus.

Mae'r ffos yn serth mewn mannau, yn enwedig yn yr ardaloedd lle’r oedd cychod yn angori. Cadwch i ffwrdd o'r ymylon.

Mae setiau modern o risiau yn eich galluogi i fynd ymhellach i fyny’r castell; defnyddiwch y canllawiau bob amser. Gall y rhain fod yn llithrig pan fyddant yn wlyb ac maent yn yr awyr agored.

Mae rhywfaint o graig yn rhan o lwybr y fynedfa, felly byddwch yn ofalus wrth i chi agosáu at fynedfa’r safle.

Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr. 

Gall dringo arwain at anaf difrifol. 

Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.

Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.

Iechyd a Diogelwch / Health and Safety

Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru 

Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.

Cwymp sydyn icon

Cwymp sydyn

Steep and uneven steps icon

Steep and uneven steps

Wyneb llithrig neu anwastad icon

Wyneb llithrig neu anwastad

Cerrig yn disgyn icon

Cerrig yn disgyn

Cyfarwyddiadau

Cyfeiriad

Castell Rhuddlan,
Castle St, Rhuddlan LL18 5AD

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01745 590777
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost RhuddlanCastle@llyw.cymru

Google Map
Ffordd: Rhuddlan ar hyd yr A525 neu’r A547.
Rheilffordd: 6km/4mllr y Rhyl, llwybr Caer-Prestatyn/Llandudno.
Bws: 220m/250llath gwasanaethau 35/36, y Rhyl-Rhuddlan/Prestatyn, a gwasanaeth 51, Dinbych-y Rhyl.
Beic: RBC Llwybr Rhif 84 (300m/328 llath)

Cod post LL18 5AD

what3words: ///unigoli.pwyntia.edrychwn

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50