Skip to main content

Cwblhawyd Castell Rhuddlan ym 1282 ar gost arswydus bryd hynny o £9,613. Heb anghofio dau swllt ac wyth geiniog. Roedd ei enw ar fin cael ei gofnodi’n annileadwy ar dudalennau hanes Cymru.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn dilyn marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf, aeth Edward I ati i bennu’r gyfraith yng Nghymru, a hynny am y 250 mlynedd nesaf, drwy Statud Rhuddlan.

Creodd y Statud siroedd Fflint, Caernarfon, Ynys Môn, Meirionnydd, Aberteifi a Chaerfyrddin - a sefydlodd system lywodraethu a barhaodd tan Ddeddf Uno Harri VIII yn 1536.

Yn Rhuddlan hefyd y cyhoeddodd Edward y byddai'n penodi ‘tywysog a aned yng Nghymru, na fedrai Saesneg, ac na allai neb staenio ei fywyd a’i ymgom’. Yn 1301, cafodd ei fab Edward, a aned yng Nghaernarfon, ei enwi'n Dywysog Cymru.

Rhaid bod hyn wedi sarhau penaethiaid Cymru i’r byw ond aeth canrif arall heibio cyn iddynt fygwth Rhuddlan o ddifrif unwaith eto. Difrodwyd y dref gan Owain Glyndŵr yn 1400 ond dal yn gadarn wnaeth y castell. Dim ond pan gafodd amddiffynfeydd anhygoel Edward I eu dal gan luoedd y senedd yn ystod y Rhyfel Cartref y gwelwyd y muriau’n dechrau malurio.