Teithiau Tywys Tŷ Canoloesol Hafoty
Tadeilad carreg sylweddol wedi’i beintio’n wyn a welwn o’n blaenau heddiw, ond yn wreiddiol tŷ ffrâm bren oedd yma, a hwnnw wedi’i adeiladu’n fwy na thebyg yn y 14eg ganrif (fe’i cofnodwyd fel Bodiordderch ym 1352).
Cafodd ei orchuddio’n ddiweddarach â charreg a bu’n destun gwaith addasu ac adfer yn y 19eg ganrif a diwedd yr 20fed ganrif, er bod ei gynllun canoloesol yn parhau. Fe’i trosglwyddwyd rhwng dwylo teuluoedd lleol pwysig — Narres a Bulkeley — ac erbyn 1585 fe’i disgrifiwyd yn hafoty.
Bydd yr hanesydd Richard Suggett yn darparu teithiau tywys o amgylch yr ty ar 16 Awst am 11am a 2pm. Mae hwn yn ddigwyddiad trwy bartneriaeth Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Taith dywys am 11am a 2pm (tua 1 awr o hyd).
Archebwch docynnau ar-lein ymlaen llaw (ni fydd tocynnau ar gael i'w prynu wrth gyrraedd).
Prisiau
| Categori | Price |
|---|---|
| Oedolion |
£12
|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
£10
|
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sul 16 Awst 2026 |
11:00 - 12:00
14:00 - 15:00
|
| Archebwch | |