Drysau Agored - Neuadd Ganoloesol Hafoty
Adeilad â ffrâm pren oedd y tŷ canoloesol hwn yn wreiddiol a chafodd ei orchuddio gan gerrig yn ddiweddarach.
Cafodd ei adeiladu gan deulu Norres fwy na thebyg cyn cael ei drosglwyddo i deulu Bulkeley yn 1511. Mae hanes strwythurol cymhleth y tŷ yn hynod o ddiddorol yn ogystal â'r lle tân hyfryd o'r 16eg ganrif sy'n cynnwys olion prin o'r addurniadau gwreiddiol.
Ymunwch â thaith o amgylch y tŷ canoloesol hyfryd hwn gyda'n tywysydd arbenigol. Dysgwch fwy am hanes lliwgar y safle a dewch i ddarganfod y trysor cudd hwn drosoch eich hun.
Cyfarwyddiadau - Ewch ar y B5109 o Fiwmares, drwy bentref Llansadwrn, ac yna trowch i'r dde ar ffordd ddiddosbarth i Landdona.
Mae'r Tŷ ar ochr chwith y ffordd tua dwy filltir o'r gyffordd (bydd arwyddion).
Teithiau am 11am, 12pm a 1pm.
Nid oes angen archebu lle.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 28 Medi 2024 |
11:00 - 14:00
|
Sul 29 Medi 2024 |
11:00 - 14:00
|