Diwrnodau Gweithgareddau i Blant
Mae ein Diwrnodau Gweithgareddau i Blant yn rhyngweithiol a gellir eu cyflwyno yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd y pynciau’n cynnwys hanes yr abaty canoloesol a bywydau’r mynachod Sistersaidd, Ffermdy Mynachlog Fawr, profiadau archaeoleg ymarferol, ac effaith amgylcheddol mwynglawdd plwm Abbey Consols gerllaw.
Mae cofrestru'n hanfodol trwy wefan Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur : Ffurflen Cofrestru Gweithgareddau Plant - Children's Activity Registration Form
Mae toiledau ar y safle ac mae diodydd a byrbrydau ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr, ynghyd ag amrywiaeth o anrhegion, llyfrau a chynnyrch lleol. Mae rhai o'n gweithgareddau a'n digwyddiadau yn yr awyr agored felly gwisgwch yn briodol ar gyfer y tywydd.
Rhad ac am ddim ond croesewir rhoddion i Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur.
Prisiau
| Categori | Price |
|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Mer 27 Mai 2026 |
10:00 - 12:00
|
| Iau 06 Awst 2026 |
10:00 - 12:00
|
| Iau 29 Hyd 2026 |
10:00 - 12:00
|