Gadewch i ni ddarganfod... Bwyd Canoloesol.
Darganfyddwch beth fyddai trigolion canoloesol castell Cas-Gwent wedi ei fwyta o ddydd i ddydd ac yng nghyfnod dyddiau gŵyl.
Gydag arddangosfa o gynhwysion, bwyd ac offer, a gwaith ar y gweill i baratoi toes bara a chymysgedd sbeisys ar gyfer bara sinsir, bydd plant hefyd yn gallu defnyddio bwyd ffug i gasglu cynhwysion ar gyfer y crochan o gawl a gosod y bwrdd ar gyfer ymwelydd bonheddig â'r castell.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.