Skip to main content

Dathliad o gynhanes Cymru a o'r Gymru a thu hwnt

Mae Bryn Celli Ddu yn wirioneddol hudolus. Un o’r agweddau pwysicaf ar fod yno yw’r amgylchedd gwych: mae’r gofeb nid yn unig yn hardd ond mae hefyd yn un o’r enghreifftiau pwysicaf a mwyaf cadwedig o feddrod cyntedd Neolithig yng Nghymru. Mae’r safle tua 5,000 o flynyddoedd oed.

Dewch i ddarganfod mwy am y lle arbennig hwn, a mwynhau diwrnod o hanes byw, teithiau, arddangosion, arddangosiadau bwyd ac amrywiaeth o weithgareddau archaeolegol ar gyfer y teulu cyfan.

Trwy gydol y dydd, bydd y mynychwyr yn cael eu gwahodd i wylio arddangosiadau naddio fflint gydag arbenigwyr fflint; mynd ar daith archaeoleg ddwyieithog o amgylch yr heneb gyda'r hynafiaethydd pync roc enwog Rhys Mwyn; gwylio arddangosiadau o dechnegau gwneud potiau a basgedi hynafol; drwodd i ddarganfod mwy am liwiau naturiol hynafol, pigmentau paent mwynol ocr a daeareg liwgar yr ynys.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 15 Meh 2024
11:00 - 16:00
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Beddrod Siambr Bryn Celli Ddu