Y Bererindod
Y flwyddyn yw 1416, ac mae Dynion Rhydd Gwent wedi dychwelyd o Ffrainc lle buont yn ymladd yn llwyddiannus dan faner Brenin Harri V yn Agincourt y flwyddyn flaenorol.
Fodd bynnag, teimlant yr angen i wneud iawn am eu pechodau er mwyn achub eu hunain rhag dialedd enbyd, a pha le gwell i gyflawni hyn nag yn Abaty Tyndyrn, ar garreg eich drws.
Dewch i gwrdd â'r dynion arfog ffyrnig hyn a'u teuluoedd yng nghynesrwydd eu gwersyll ger eu cartrefi yng Nghymru, a dysgu am eu ffordd o fyw ac addoli.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Gwen 03 Ebr 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sad 04 Ebr 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sul 05 Ebr 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Llun 06 Ebr 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sad 27 Meh 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sul 28 Meh 2026 |
10:00 - 16:00
|