Dewch i glywed alawon hudolus y canol oesoedd yng nghwmni’r cerddorion Marco Cannavo, Steve Tyler a Ricardo De Noronha.
Byddan nhw’n dangos eu casgliad o offerynnau o’r cyfnod, gan gynnwys hyrdi-gyrdi, telyn ac offerynnau taro, a bydd y triawd yn perfformio am 11am, 1pm a 3pm a byddant ar gael i ymwelwyr drwy gydol y dydd i drafod ac arddangos cerddoriaeth ganoloesol.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 25 Gor 2026 |
10:00 - 16:00
|