Gweithdai Cyflwyniad i Rwymo Llyfrau
Ymunwch â'r rhwymwr llyfrau profiadol Kate Thomas yn y gweithdy hwn sy’n rhoi cyflwyniad i rwymo llyfrau.
Byddwch yn dysgu sut i blygu a rhwymo llyfr syml gan ddefnyddio offer traddodiadol a chyfoes a chreu llyfr nodiadau clawr papur A5 y gallwch fynd ag ef adref gyda chi!
Bydd y sesiynau'n para 60-90 munud, a bydd yr holl offer a deunyddiau yn cael eu darparu. Nid oes angen unrhyw brofiad.
Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer oedran 11+.
Mae angen tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn a rhaid archebu ymlaen llaw. Mae’r tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn cynnwys mynediad cyffredinol i'r castell, felly mae croeso i chi archwilio'r heneb cyn neu ar ôl eich sesiwn.
Cyrhaeddwch 10 munud cyn i'ch sesiwn ddechrau os gwelwch yn dda.
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Tocynnau |
£15.00
|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 17 Mai 2025 |
10:30 - 12:00
12:30 - 14:00
14:30 - 16:00
|
Archebwch |