Hanesion Cudd: Dirgelwch y Pennau
Galwad i bob Haciwr Hanes! Rydyn ni angen eich help ym Mhlas Mawr – tŷ llawn cyfrinachau, straeon... a thri phen eithaf dychrynllyd.
Mae Robert Wynn, Meistr y Tŷ, yn paratoi ar gyfer ymweliad gan y Frenhines Elizabeth I, ac mae'n benderfynol o greu argraff – mae o eisiau dangos ei gyfoeth, ei statws a'i enw da, gyda digon o rodres a seremoni.
Ond wrth i chi ddysgu mwy... daw’n amlwg bod rhywbeth o’i le.
Dilynwch y cliwiau, gwrandewch yn astud, a datgelwch y gwir am y pennau – os meiddiwch chi!
Ond bydd rhaid i chi frysio, mae’r Frenhines ar ei ffordd. A bydd rhaid i chi wneud penderfyniad anodd cyn iddi gyrraedd.
Dwy sesiwn: 11am–12.45pm a 1.15pm–3pm.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 01 Awst 2026 |
11:00 - 15:00
|
| Sul 02 Awst 2026 |
11:00 - 15:00
|
| Categori | Price |
|---|---|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
| Oedolyn |
£10.90
|
| Teulu (2 oedolyn a hyd at 3 plentyn) |
£34.90
|
| Teulu (1 oedolyn a hyd at 3 plentyn) |
£24.00
|
| Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
| Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr* |
£7.60
|
| Pobl hŷn (Oed 65+) |
£9.80
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. *Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
|