Merched drwy’r oesoedd
Yr haf hwn, mae Cadw yn taflu goleuni ar bum menyw o chwedloniaeth Gymreig, Cymru Ganoloesol a threftadaeth ddiwydiannol.
Ymddangosodd eu cerfluniau maint byw yn Sgwâr Canolog Caerdydd, gan wahodd pobl i ymgysylltu â gorffennol Cymru. Mae pob menyw wedi'u cysylltu ag un o leoliadau Cadw, lle gall ymwelwyr weld hanes Cymru yn dod yn fyw.
Dewch i ddysgu eu straeon...
SANTES DWYNWEN
Ynys Llanddwyn / Castell Biwmares
Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru, oedd yr harddaf o 24 o ferched y Brenin Brychan Brycheiniog. Syrthiodd mewn cariad â Maelon ond roedd ei thad yn chwyrn yn erbyn y berthynas. Gweddïodd Dwynwen ar i Dduw ei helpu i anghofio Maelon ac yn gyfnewid am hyn, aeth yn lleian gan ymgartrefu yn y pen draw ar Ynys Llanddwyn ar Ynys Môn.
BRANWEN FERCH LLŶR
Castell Harlech
Mae Branwen ferch Llŷr yn un o brif gymeriadau ail gainc y Mabinogi, un o straeon canoloesol enwocaf Cymru. Wedi iddi gael ei cham-drin gan ei gŵr, Matholwch, Brenin Iwerddon, hyfforddodd Branwen ddrudwy i gludo neges at ei brawd Bendigeidfran yn Harlech. Hedfanodd yr aderyn dros Fôr Iwerddon â llythyr yn ei annog i arwain byddin i Iwerddon i achub ei chwaer.
GWENLLIAN FERCH GRUFFUDD
Castell Cydweli
Tywysoges Gymreig o'r 12fed ganrif oedd Gwenllian ferch Gruffudd a arweiniodd fyddin yn erbyn lluoedd y Normaniaid yn 1136, rôl anarferol o feiddgar i fenyw ar y pryd. Er i’w lluoedd gael eu trechu ac iddi farw ar faes y gad, daeth yn symbol grymus o wrthsafiad. Ysbrydolodd ei marwolaeth arwrol genedlaethau diweddarach, gan ei throi'n symbol parhaol o herfeiddiwch ac annibyniaeth y Cymry.
GWLADYS FERCH DAFYDD GAM
Castell Rhaglan
Roedd Gwladys ferch Dafydd Gam yn byw yng Nghymru yn y 15fed ganrif, ac yn hanu o deulu pwerus, a hithau’n ferch i Dafydd Gam, a laddwyd ym Mrwydr Agincourt yn 1415. Daeth yn adnabyddus fel "Seren y Fenni" a chwaraeodd ran bwysig yn cysylltu teuluoedd Cymreig dylanwadol trwy ei phriodasau, gan helpu i ddylanwadu ar wleidyddiaeth y Gymru ganoloesol.
MARGARET THOMAS
Gwaith Haearn Blaenafon
Roedd Margaret Thomas yn 15 oed ac yn gweithio yng Ngwaith Haearn Blaenafon. Er mai ychydig a wyddom am Margaret ei hun, mae ei stori yn taflu goleuni ar lafur caled a dygnwch tawel yr holl blant hynny wnaeth helpu i siapio gorffennol diwydiannol Cymru.