Gwenllian ferch Gruffudd
Yn wyneb ymlediad y Normaniaid ym Mhrydain ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg a dechrau'r ddeuddegfed ganrif, daeth Gwenllian ferch Gruffudd i'r amlwg fel symbol grymus o herfeiddiwch, dewrder ac arweinyddiaeth y Cymry.
Cafodd ei geni i dŷ brenhinol Gwynedd, ac roedd yn ferch i Gruffudd ap Cynan, rheolwr pwerus a dylanwadol a helpodd i lunio’r Gymru ganoloesol. Trwy ei phriodas â Gruffudd ap Rhys, Tywysog y Deheubarth, daeth i gael ei chysylltu’n agos iawn â ffawd de-orllewin Cymru ar adeg o gynnwrf gwleidyddol sylweddol.
Roedd goresgyniad y Normaniaid wedi gwthio ymhell i mewn i’r Deheubarth, gan orfodi Gwenllian a'i theulu i dirweddau garw Caeo yng Nghantref Mawr. Er gwaethaf yr heriau hyn, parhaodd y gwrthwynebiad i reolaeth y Normaniaid yn gryf ledled Cymru.
Yn 1136, yn ystod gwrthryfel Cymreig eang, teithiodd gŵr Gwenllian i'r gogledd i ennyn cefnogaeth, gan adael Gwenllian gyda'u plant ifanc a'u hadnoddau prin. Pan ddaeth y newydd i Gwenllian fod Maurice de Londres, arglwydd Normanaidd Cydweli, yn cynnull lluoedd i dynhau ei afael ar y rhanbarth, fe wnaeth benderfyniad beiddgar ac eithriadol.
Yn hytrach nag aros am filwyr ychwanegol, penderfynodd weithredu.
Gan godi byddin ar ei phen ei hun, arweiniodd Gwenllian ei lluoedd i frwydr yn erbyn y Normaniaid – cam prin a dewr i fenyw yn y Brydain ganoloesol. Dangosodd ei harweinyddiaeth nid yn unig benderfyniad, ond ymrwymiad dwfn i amddiffyn ei thir, ei phobl a'i threftadaeth ar adeg o berygl heb ei ail.
Daeth y frwydr, ger Cydweli, i ben mewn trasiedi.
Cafodd Gwenllian ei gorchfygu, ei dal a'i lladd, yn ôl y sôn ar faes y gad ei hun.
Daeth y safle yn adnabyddus fel Maes Gwenllian, gan nodi ei haberth a'i dewrder. Er iddi golli ei bywyd ym mlodau ei dyddiau, mae ei dylanwad wedi parhau, gyda’i hanes yn cael ei rannu a’i gofio ar draws cenedlaethau.
Parhaodd ei gwaddol trwy ei mab, Rhys ap Gruffudd - Arglwydd Rhys maes o law - a ddaeth yn un o reolwyr Cymreig mwyaf pwerus y ddeuddegfed ganrif. Yn y blynyddoedd dilynol, byddai'n adennill tiriogaethau ac yn cipio cadarnleoedd Normanaidd, gan barhau â'r frwydr yr oedd ei fam wedi'i hymgorffori mor danllyd, gan gryfhau hunaniaeth ac annibyniaeth Cymru.
Heddiw, mae Gwenllian ferch Gruffudd yn cael ei chofio fel symbol pwerus o wrthsafiad, gwytnwch ac arweinyddiaeth. Mae ei stori yn un o ddewrder yn wyneb adfyd, ac o ymladd, nid am ogoniant, ond am gartref.
Gall ymwelwyr â Chastell Cydweli weld ei charreg goffa a myfyrio ar waddol parhaol un o ffigyrau hanesyddol mwyaf ysbrydoledig Cymru.