Branwen ferch Llŷr
Mae stori Branwen ferch Llŷr yn ymddangos yn yr ail o Bedair Cainc y Mabinogi, un o drysorau llenyddol cynharaf Cymru.
Roedd Branwen yn chwaer i'r cawr Bendigeidfran, Brenin Prydain, a gynhaliodd un o'i lysoedd yn Harlech, yn edrych dros fynyddoedd Eryri a Môr Iwerddon.
Daeth Matholwch, Brenin Iwerddon, i Harlech i ofyn am gael priodi Branwen er mwyn uno'r ddau deulu, ond doedd pawb ddim yn hapus â'r trefniant. Roedd Efnisien, hanner brawd Branwen a Bendigeidfran, yn gandryll wrth ddarganfod bod y briodas wedi'i threfnu heb yn wybod iddo. Er mwyn dial, anafodd Efnisien geffylau Matholwch, gan dorri eu clustiau, eu cynffonnau, eu gweflau a'u hamrannau. Achosodd hyn ddicter mawr ymhlith y Gwyddelod.
Er mwyn adfer heddwch, rhoddodd Bendigeidfran nifer o anrhegion i Matholwch, gan gynnwys y Pair Dadeni - crochan hud a oedd yn gallu dod â'r meirw'n ôl yn fyw. Fe gymerodd Matholwch ei wraig Branwen i Iwerddon, ac ymhen ychydig ganed eu mab, Gwern. Ond ni anghofiodd y Gwyddelod sarhad Efnisien, ac fe ddioddefodd Branwen o'i herwydd.
Fel cosb, cafodd ei hanfon i weithio yn y ceginau, lle bu'n coginio am dair blynedd a chafodd ei churo'n ddyddiol gan gigydd y llys. Yn ystod ei chyfnod yn y ceginau, daeth drudwy, a ymddangosodd wrth ei ffenestr, yn gyfaill i Branwen. Dros amser, dysgodd Branwen y drudwy i adnabod Bendigeidfran. Clymodd lythyr wrth ei hadain a'i hanfon dros Fôr Iwerddon i roi gwybod i'w brawd am ei dioddefaint.
Ar ôl i Bendigeidfran ddarllen y neges, penderfynodd godi byddin a theithio i Iwerddon i achub ei chwaer. Wrth i'r cawr groesi Môr Iwerddon, credai byddin Matholwch eu bod yn gweld mynydd yn codi o'r dŵr, ac mai dau lyn oedd ei lygaid a'i lynges fel coed ar y gorwel.
Ciliodd byddin Iwerddon dros Afon Liffey a dinistrio'r bont oedd yn ei chroesi. Ond fe orweddodd Bendigeidfran ar draws yr afon, gan ganiatáu i'w filwyr groesi. Wrth wynebu byddin Bendigeidfran, cynigiodd Matholwch roi teyrnas Iwerddon i'w fab, Gwern. Ond twyll oedd hyn, ac unwaith i Efnisien ddarganfod y cynllwyn, taflodd Gwern i'r tân mewn dicter.
Ar ôl hyn, bu rhyfel gwaedlyd.
Defnyddiodd y Gwyddelod y Pair Dadeni i ddod â'u meirw'n ôl yn fyw, ond aberthodd Efnisien ei fywyd er mwyn ei ddinistrio. Yn y cyfamser, cafodd Bendigeidfran ei glwyfo'n angheuol gan waywffon wenwynig.
Ar ôl y frwydr daeth Branwen nôl i Gymru, ond ar ôl marwolaeth ei mab a'i dau frawd, bu farw hithau o dorcalon. Yn ôl y traddodiad, fe'i claddwyd ym Medd Branwen yng Nghaergybi.
Er gwaethaf ei thynged drasig, mae stori Branwen yn parhau i gael ei hadrodd hyd heddiw.
Mae modd i ymwelwyr â Chastell Harlech ddarganfod rhagor am stori Branwen a gweld y man y dechreuodd ei stori.