Margaret Thomas
Ganed Margaret Thomas tua 1825 i deulu glofaol ym Mlaenafon, a chafodd ei magu mewn cyfnod pan oedd y diwydiant haearn yn trawsnewid y de-ddwyrain, gan greu cyfoeth i rai ar draul eraill.
Fel llawer o blant yr ardal, cafodd Margaret ei hanfon i weithio yng Ngwaith Haearn Blaenafon pan oedd yn ifanc iawn.
Yn un o safleoedd diwydiannol pwysicaf Cymru ar y pryd, cafodd Gwaith Haearn Blaenafon ei sefydlu mewn ardal lle'r oedd glo, mwyn haearn a chalchfaen i gyd yn agos at ei gilydd, gan sicrhau twf cyflym yn ystod diwedd y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd Margaret yn mwyngloddio'r garreg haearn a fyddai'n cael ei llosgi yn ddiweddarach yn y ffwrneisi chwyth.
Dechreuodd weithio yn "y lefelydd", gweithfeydd tanddaearol y mae llawer yn eu hystyried yn anoddach na llafurio ar ben y pwll. Roedd yr amodau'n galed. Roedd y lefelydd yn gorlifo'n aml, gan orfodi gweithwyr i gerdded trwy fwd a dŵr wrth gyflawni tasgau corfforol heriol.
Yn ddiweddarach, roedd Margaret yn cofio gwthio tramiau llawn dop allan o'r gweithfeydd a dychwelyd rhai gwag, a hynny'n droednoeth. Roedd y dyddiau'n hir, gyda disgwyl i blant weithio shifftiau 12 awr yn rheolaidd, chwech neu saith diwrnod yr wythnos, yn union fel eu rhieni. Mynd adref i gael cinio oedd unig seibiant Margaret.
(Yn y llun uchod: un o’r bythynnod gweithwyr wedi’u dodrefnu yn Stack Square, Gwaith Haearn Blaenafon)
Yna byddai’n dychwelyd i'r man lle'r oedd hi a llawer o'i ffrindiau'n mentro eu bywydau, ac yn agored i beryglon cyson fel mwg gwenwynig a pheiriannau trwm. Mae ei stori wedi goroesi, diolch i ymchwiliad y Comisiwn Brenhinol i lafur plant ym 1842, a gofnododd brofiadau plant oedd yn gweithio ym mhyllau glo a gweithfeydd haearn Prydain.
Fe wnaeth yr ymchwiliad ganfod plant mor ifanc â phump oed yn y gwaith; ym Mlaenafon, roedd chwarter ohonynt yn ferched.
Nid oedd profiad Margaret yn anarferol, ond mae'n parhau i fod yn un o'r adroddiadau cliriaf o fywyd gweithwyr benywaidd ifanc yn ystod y cyfnod hwn. Roedd Margaret yn un o ddim ond dau berson ym Mlaenafon i roi tystiolaeth yn Gymraeg, ar adeg pan oedd mwy a mwy o weithwyr yn heidio o ganolbarth Lloegr a thu hwnt.
Mae ei geiriau yn gofnod pwysig o'r ecsbloetio a ddioddefodd lawer o blant a menywod mewn cyfnod o dwf diwydiannol aruthrol, gan gynnig cipolwg ar y realiti y tu ôl i lwyddiant diwydiannol Cymru.
Heddiw, rydyn ni'n cofio am Margaret Thomas - nid am ei bod hi'n enwog, ond oherwydd bod ei stori’n rhoi llais i filoedd o blant oedd yn gweithio ond prin wedi’u cofnodi go iawn.
Gall ymwelwyr â Gwaith Haearn Blaenafon ddysgu mwy am brofiad Margaret a dysgu am yr holl fenywod a phlant wnaeth lafurio'n galed i helpu i bweru un o gymunedau diwydiannol pwysicaf ein gwlad.