Gwladys ferch Dafydd Gam
Roedd bywyd Gwladys ferch Dafydd Gam yn un a nodweddwyd gan bŵer, edmygedd a cholled.
Daeth Gwladys i amlygrwydd yn hanes Cymru fel Arglwyddes Castell Rhaglan a chafodd ddylanwad mawr yn ystod ei hoes – roedd rhai hyd yn oed yn ei chymharu â ffigyrau nodedig fel y Frenhines Marcia, rheolwraig chwedlonol y Brythoniaid.
Ond cyn iddi ennill y statws hwnnw roedd Gwladys wedi wynebu caledi a thrasiedi.
Ganed Gwladys yn Sir Frycheiniog ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, yn ferch i Gwladys ferch Gwilym a Dafydd ap Llewelyn ap Hywel, sef Dafydd Gam. Roedd ei thad yn dirfeddiannwr Cymreig ac yn filwr a wasanaethodd frenhinoedd Lancastraidd Harri IV a Harri V.
Yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr (a ddechreuodd yn 1400), ymosodwyd ar diroedd ei theulu ger Aberhonddu, a chafodd ei thad ei gipio a’i ddal yn wystl. Gŵr bonheddig Cymreig o'r enw Syr Roger Vaughan o Bredwardine oedd gŵr cyntaf Gwladys. O'r berthynas hon rhoddodd Gwladys enedigaeth i bump o blant; tri mab a dwy ferch.
Fodd bynnag, ym mrwydr Agincourt yn 1415, daeth trasiedi i’w rhan pan fu farw tad Gwladys. Yn waeth fyth, yn ôl yr hanes, collodd Roger Vaughan ei fywyd ar faes y gad hefyd. Yna priododd Gwladys ei hail ŵr, Syr William ap Thomas o Gastell Rhaglan, a oedd hefyd yn cael ei alw yn 'Farchog Glas Gwent.' Yn ôl traddodiad y teulu, adeiladodd y Tŵr Mawr â ffos sy'n dal i sefyll yng Nghastell Rhaglan hyd heddiw.
Drwy’r briodas, ymunodd Gwladys â theulu a oedd yn hel cyfoeth a dylanwad cynyddol. Daeth ei mab, William Herbert, yn Iarll Penfro a chwaraeodd ran ganolog yn Rhyfeloedd y Rhosynnau. Bu gan ei disgynyddion ar ochr yr Herbertiaid rym mawr yng Nghymru a Lloegr am ganrifoedd lawer wedi hynny.
Fel Arglwyddes Rhaglan, roedd Gwladys yn uchel ei pharch ac roedd ganddi rôl bwysig yn ei chymuned. Roedd hi'n defnyddio ei dylanwad er daioni ac yn gofalu am yr eiddil a’r gwan. Roedd Gwladys hefyd yn noddi beirdd a cherddorion Cymreig a rhoddwyd iddi'r teitl 'Seren y Fenni’.
Ar ôl ei marwolaeth yn 1454, claddwyd Gwladys wrth ymyl ei gŵr William ap Thomas mewn bedd ym Mhriordy y Fenni. Gellir dod o hyd i ddelwau alabastr cain o'r cwpl yno hyd heddiw.
Gallwch ymweld â Chastell Rhaglan i ddarganfod mwy am dwf un o fenywod mwyaf dylanwadol Cymru.