Llys a Chastell Tretŵr
Hysbysiad ymwelwyr
O ddydd Llun, 14 Rhagfyr, bydd yr holl henebion sydd wedi’u staffio a heb staff ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â chau pob atyniad awyr agored yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad ysgrifenedig: diweddaru’r cynllun rheoli Covid-19 yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ewch i: llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddarur-cynllun-rheoli-covid-19-yng-nghymru
Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl yn bersonol, beth am archwilio ein byd 3D o safleoedd Cadw …
Arolwg
Dau ryfeddod pensaernïol yn rhychwantu 900 mlynedd o hanes
Mae’r cliw yn yr enw. Roedd y tŵr cylchol enfawr a adeiladwyd gan Roger Picard II mor drawiadol nes rhoi’r enw Tretŵr i’w gastell yn y pen draw.
Dros ddwy ganrif, o ryw 1100, trawsffurfiodd teulu Picard o fod yn anturiaethwyr Normanaidd goresgynnol i arglwyddi Cymreig grymus.
Felly nid er gwarchodaeth yn unig y codwyd y clamp hwn o dŵr gyda’i bedwar llawr a waliau cerrig naw troedfedd o drwch. Roedd yn arwydd o esgyn cymdeithasol yn y golwg, yn efelychiad agored o’r cestyll ym Mhenfro ac Ynysgynwraidd.
Byddai’n ddigon hynod ar ei ben ei hun. Ond mae yn Nhretŵr ddau ryfeddod mewn un. Ar draws faes y castell gorwedda llys canoloesol cyfan a ddaeth yn ddihareb am wychder.
Creadigaeth Syr Roger Vaughan a’i ddisgynyddion oedd hwn. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnod, Syr Roger oedd un o’r dynion mwyaf pwerus yng Nghymru – ac roedd Tretŵr yn adlewyrchu ei enwogrwydd.
Byddai’n denu beirdd Cymru ganoloesol a yfai ei winoedd gwych ac a ganai glodydd ei westywr hael. Erbyn hyn, yn sgil gwaith adfer gofalus iawn, gallwch ddychmygu i’r byw fod yn un o westeion mwyaf anrhydeddus Tretŵr.
Fe welwch fod y neuadd fawr wedi’i gosod yn union fel y buasai efallai am wledd helaeth yn y 1460au. Yn yr ardd a ail-grewyd o’r 15fed ganrif, gallwch grwydro ymhlith rhosynnau gwyn persawrus sy’n symbol o gydymdeimladau Iorcaidd angerddol Syr Roger.

Llys a Chastell Tretŵr Pamffledyn Canllaw
Prynwch eich llyfr Cadw ar-lein heddiw.
Aelodau Cadw 10% i ffwrdd!
Prisiau a Thocynnau
Cyfleusterau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Mae maes parcio wedi'i raeanu ac mae lleoedd parcio ar ochr y ffordd gyferbyn â'r llys ar gyfer tua 30 o gerbydau.
Mae gan y lleoliad drwydded ar gyfer seremonïau sifil.
Mae'r llys yn hygyrch yn gyffredinol ond gall y fynedfa goblog fod yn anaddas i ddefnyddwyr cadair olwyn a bygis.
Gall mynedfa ar yr ochr fod ar gael os bydd angen.
Nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anabl.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Gardd ar y safle.
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Mae llety gwyliau Cadw ar gael i’w logi yn agos i’r safle hwn.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.
Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Mae lluniaeth ysgafn ar gael.
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Cyfarwyddiadau
Cod post NP8 1RD.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.
Cysylltu â ni
Rhif ffôn 01874 730279
E-bost
*Tretowercourt@llyw.cymru
Tretŵr, Crug Hywel, NP8 1RF