Skip to main content

Gadawodd teulu Vaughan Lys Tretŵr yn fuan ar ôl 1700. Ac felly y dechreuodd ei ddirywiad araf o dan gyfres o ffermwyr-denantiaid.    

Bu’r ystafelloedd a arferai groesawu arglwyddi a boneddigesau yn destun yr anfri eithaf – daethant yn gartref i foch. Yn wir, roedd Tretŵr mewn cyflwr ofnadwy pan gafodd ei brynu i’r genedl ym 1934.  

Parhaodd yr ymgais cadwraeth gwreiddiol am bedwar degawd hir, a llwyddodd i achub ffabrig yr adeiladau. Yn 2010, rhoddwyd bywyd newydd i’r tu mewn drwy waith adfer mawr pellach Cadw.    

Erbyn hyn, mae holl ystafelloedd yr adain orllewinol – o’r gegin, y llaethdy a’r pantri canoloesol i neuadd fawr Syr Roger Vaughan – wedi’u gosod fel y buasent ar eu hanterth yn y 1460au.    

Atgynyrchiadau modern yw pob celficyn a dodrefnyn, hyd yn oed y sosbenni a’r padellau yn y gegin. Pob un wedi’i wneud yn arbennig. Pob un yn seiliedig ar dystiolaeth ddilys o’r 15fed ganrif.   

O dan do pren godidog y neuadd fawr, mae uchel fwrdd Syr Roger wedi’i osod â’r llieiniau a’r llestri ceinaf. Cadwch lygad am y seld dderw drawiadol a chwpwrdd o liw gwyrdd y ddaear neu terre verte. Fe’i haddurnwyd â dyfais herodrol ryfedd teulu Vaughan – sef bachgen a neidr am ei wddf. 

Yn fwy trawiadol na dim yw’r lliain wedi’i beintio y tu ôl i’r uchel fwrdd. Mae’n cyfleu pedair golygfa o fywydau cyffrous teulu Vaughan, gan ddechrau â brwydr Agincourt ym 1415 a gorffen â gwarchae Castell Harlech ym 1468.

Nid teulu cyffredin mohono. Ond nid cartref cyffredin mo Tretŵr ychwaith. Y grŵp rhyfeddol hwn o adeiladau canoloesol yw un o’r darganfyddiadau mwyaf gwerthfawr yng Nghymru.