Priodasau Llys a Tretŵr
Mae Llys Tretŵr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dŷ cwrt sydd wedi ei adfer o’r Oesoedd Canol. Cafodd ei adeiladu gan Syr Roger Vaughan yn y bymthegfed ganrif, ac mae’n lle hynod rhamantus ar gyfer eich seremoni priodas sifil neu bartneriaeth sifil.
Mae’r gwaith pren godidog yn goroesi yn ardaloedd y gogledd a’r gorllewin, gyda ffenestri diweddarach yn yr arddull Clasurol yn dyddio’n ôl i’r 1630au. Mae yno hefyd ardd wedi ei hail-greu yn arddull y bymthegfed ganrif, ac mae’n lle tawel a phrydferth i gael atgofion ffotograffig o’ch diwrnod arbennig.
Mae’r tŷ cwrt yn edrych dros y castell, a sefydlwyd fel amddiffynfa bridd a phren pan orchfygwyd yr ardal gan y Normaniaid a’i ailgodi’n ddiweddarach mewn carreg.
Mae tair rhan o’r llys ar gael ar gyfer eich seremoni, a phob un yn dal hyd at 50 o bobl. Mae’r neuadd fawr ar y llawr gwaelod, ac i fynd yno byddwch yn mynd drwy’r cwrt coblog. Mae’r ddwy ystafell arall ar y llawr cyntaf.
Mae’r amseroedd yn amrywio yn ôl oriau agor y tymor. Mae Llys a Chastell Tretŵr ar gau dydd Sadwrn – dydd Mawrth, mis Tachwedd i fis Mawrth.
Gellir trefnu i logi Llys Tretŵr 13 mis cyn y dyddiad. Er enghraifft, gellir trefni unrhyw ddyddiad ym mis Mehefin 2021 oddi ar y diwrnod gwaith cyntaf ym mis Mai 2020.
Ar ôl ichi gadarnhau, bydd angen ichi lofnodi’r Cytundeb Lleoliadau, a darparu copi inni o’ch Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus fis cyn y digwyddiad.
Pecyn Priodasau
- Sgwrs drwy apwyntiad gyda’r ceidwad
- Rhagchwiliad yn rhad ac am ddim i griw’r briodas o’r ardaloedd sydd â thrwydded ar gyfer seremonïau sifil
- Eistedd ar feinciau ar ffurf theatr, gydag eil i lawr y canol
- Tynnu lluniau’r briodas mewn ardaloedd a drefnwyd o flaen llaw
Ffioedd Llogi
Dyma’r ffioedd ar gyfer 2025:
- Dydd Llun i ddydd Gwener £685
- Dydd Sadwrn a dydd Sul £835
Os hoffech drafod y syniad o ddefnyddio’r heneb, cael gwybod a yw ar gael neu fwcio, cysylltwch â’r ceidwad yn uniongyrchol ar 01874 730279.
Mae'r prisiau yn cynnwys TAW.