Priodasau Castell Coch
Ar hyn o bryd ni allwn dderbyn unrhyw archebion priodas yng Nghastell Coch oherwydd bod gwaith cadwraeth hanfodol yn cael ei wneud yn y castell.
Gwiriwch ein lleoliadau seremoni sifil eraill sydd ar gael i’w llogi
Mae creadigaeth Othig yr Ardalydd Bute yng Nghastell Coch, gyda’i du mewn lliwgar a’i leoliad mewn coetir hardd, yn ddelfrydol ar gyfer seremonïau cariadus.
Cynhelir seremonïau sifil yn y Parlwr sy’n dal uchafswm o 30 o bobl.
Pecyn Priodasau
- sgwrs drwy apwyntiad gyda’r ceidwad
- rhagchwiliad yn rhad ac am ddim o’r Parlwr ar gyfer criw’r briodas
- eistedd ar feinciau ar ffurf theatr, gydag eil i lawr y canol
- tynnu lluniau’r briodas mewn ardaloedd a drefnwyd o flaen llaw
- mynediad am uchafswm o 90 munud.
Ffioedd Llogi
Dyma’r ffioedd ar gyfer 2025:
- Dydd Llun i ddydd Gwener £835
- Dydd Sadwrn a dydd Sul £985
Mae gan Cadw yr hawl i godi bond amodol ad-daladwy. Telir hwn ar ôl gwneud cais. Mae'r prisiau yn cynnwys TAW.
Mae’n bosibl i Gastell Coch gynnal dwy briodas y dydd gan ddibynnu ar yr amseroedd: un yn y bore ac un yn y prynhawn, a’r rheini’n para 90 munud yr un. Dim ond ar gyfer seremoni sifil y mae Castell Coch ar gael. Nid oes cyfleusterau ar gyfer cynnal achlysur.
Am resymau iechyd a diogelwch, rhaid i uchafswm nifer y gwesteion gynnwys y ddau gofrestrydd, y priodfab a’r briodferch, y ffotograffydd ac unrhyw gerddorion. Mae amseroedd yn amrywio yn ôl oriau agor y tymor.
Mae Castell Coch ar gau ym mis Ionawr.
Sut i archebu
Gellir llogi Castell Coch hyd at 13 mis cyn y dyddiad. Er enghraifft, gellir trefnu unrhyw ddyddiad ym mis Mehefin 2025 o’r diwrnod gwaith cyntaf ym mis Mai 2024.
Gwiriwch fod cofrestrydd ar gael i gynnal y seremoni cyn gwneud archeb dros dro. Gellir gwneud hyn drwy Swyddfa Gofrestru Caerdydd — Ffôn: 029 2087 1680/4
I archebu Castell Coch ar gyfer eich priodas
- cysylltwch â’n tîm ar y safle i wirio argaeledd ar gyfer y dyddiad o’ch dewis
- cwblhewch ein ffurflen archebu ar-lein a chytuno i’n telerau ac amodau
- cyflwyno blaendal o 50% ar gytundeb eich cais.
Cysylltwch â thîm Castell Coch
Ffôn: 02920 810101
E-bost: castellcoch@llyw.cymru