Skip to main content

Llys a Chastell Tretŵr — Canllaw Mynediad

Croeso i’n canllawiau hygyrchedd sydd wedi’i dylunio i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod allan a darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ein tîm a fydd yn hapus i helpu:

Ebost: Tretowercourt@llyw.cymru   Ffôn: 03000 252239

Ymweld â Llys a Chastell Tretŵr

Mae maes parcio rhad ac am ddim i ymwelwyr, gyda 2 fan parcio hygyrch yn wynebu'r fynedfa i'r ganolfan ymwelwyr: Golwg Google maps

Mae lle i 50 o geir ar arwyneb grained gwastad. Mae rheseli beiciau i storio beiciau'n ddiogel wrth i chi ymweld â'r heneb.

Mae'r daith o'r maes parcio i'r ganolfan ymwelwyr yn wastad a llyfn Mae drysau eang, awtomatig i’r ganolfan ymwelwyr.

Mae canolfan ymwelwyr Tre Tŵr yn yr ysgubor sy’n dyddio’n ôl i’r 15fed ganrif; mae’r ardal fanwerthu wedi’i dylunio i ganiatáu digon o le rhwng ardaloedd arddangos, mannau mynediad ac ymadael ac mae'n cynnwys desgiau derbyn isel a drysau awtomatig.

Mae'r daith o'r ganolfan ymwelwyr i'r llys ar draws prif ffordd gyda'r traffig yn dod o'r ddau gyfeiriad (dim cyrbau); mae'r fynedfa i'r llys ar draws iard goblau a thrwy fynedfa glwyd ddwbl lydan.

Mae bwyty bach yn yr ysgubor ar y llawr cyntaf hefyd, sydd ar agor am fwyd yn ystod y dydd a gyda'r nos. Mae mynedfa i'r bwyty drwy res o risiau neu lifft.

Mae taith sain ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Toiledau

Canolfan ymwelwyr:

Mae dau doiled i’r ddwy ryw ar lawr gwaelod y ganolfan ymwelwyr, mae cyfleusterau newid babanod yn un ohonynt ac mae un yn hygyrch.

Heneb:

Mae bloc toiledau y tu ôl i ran ogleddol yr iard hefyd.  Mae hyn yn cynnig ardaloedd gwrywaidd a benywaidd ar wahân ac un toiled hygyrch pwrpasol.

Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser a rhaid i gŵn nad ydynt yn gŵn cymorth aros ar y llawr gwaelod yn unig.

Wrth fynd i mewn i'r iard, mae'r llwybrau coblau gwastad yn parhau yng nghanol lawntiau cwrt glaswelltog ehangach gyda dwy fainc bren wedi'u lleoli mewn alcofau ar hyd waliau'r gogledd a'r dwyrain. Gall y llwybrau coblau fod yn anghyfforddus i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Mae mynediad i ardd yr iard drwy borth ffrâm bren gul gyda ramp i lawr i lwybr graeanog, neu gall y tîm ceidwadol ar y safle agor mynedfa giât letach arall yr ardd ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a sgwteri ar gais.

Mae'r llys dros ddau lawr.

Mae mynediad ar y llawr gwaelod drwy ddrws pren i loriau cerrig; mae'n bosibl cael mynediad i fwyafrif y llawr gwaelod gyda chymhorthion cerdded a chadeiriau olwyn.

Mae ond yn bosibl cyrraedd y llawr cyntaf drwy sawl set o risiau, mae rhai o'r rhain yn gul ac yn serth ond mae gan bob un ganllaw

Cynllun Llawr — Llys a Chastell Tretŵr

Mae mynediad i'r castell ar draws lawnt laswelltog ac mae'n rhaid i ymwelwyr ddringo twmpath bach glaswelltog hanner ffordd rhwng y llys a mynedfa'r castell.

Mae mynedfa i ardal y castell ger giât bren sy’n cau â chlicied. Nid yw'n bosib defnyddio cadeiriau olwyn i fynd i'r castell ar hyd y llwybr hwn.

Mae'r castell wedi'i leoli o fewn fferm sy'n eiddo preifat ac felly wedi ei amgylchynu gan anifeiliaid fferm.

Mae ail giât siglen fetel i gael mynediad i orthwr cragen allanol y castell ac yna mae dringfa fer i lefel mynediad y llawr gwaelod. Mae mynediad i'r islawr drwy risiau pren gyda chanllaw. Oddi yma mae'n bosibl dringo'r grisiau troellog cerrig i fyny i'r llawr cyntaf.

Mae'r castell yn adfail ac yn agored i'r awyr, gall arwynebau fod yn wlyb ac yn llithrig yn ystod tywydd gwael.

Mae'r ardd ganoloesol yn wastad ac yn lefel gydag adrannau lawnt wedi'u gwahanu gan lwybrau graeanog. Mae deildy twnnel o amgylch perimedr allanol yr ardd sy'n arwain at blatfform gwylio wedi'i godi (3 gris).

Mae meinciau picnic pren ar yr ardaloedd lawnt at ddefnydd y cyhoedd (gall y rhain gael eu symud i rannau eraill o'r heneb yn ystod digwyddiadau priodas a llogi ffilmiau; os ydych chi'n bwriadu defnyddio'r rhain yn ystod eich ymweliad, gwiriwch gyda'n timau yn enwedig yn ystod tymor digwyddiadau prysur yr haf.

Mae adran ar wahân yn yr ardd ganoloesol sy'n gartref i nifer o gychod gwenyn. Nid yw'r ardal blodau gwyllt yma ar agor i ymwelwyr a does dim modd mynd i mewn.

Taith sain   
Caffi
Diffibriliwr
Powlen i gŵn                                                   
Canllawiau print bras
Gofodau sain gref/goleuadau sy'n fflachio 
Parcio ar gyfer pramiau a sgwteri 
Cyfleusterau picnic 
Dolenni sain cludadwy
Gorsaf ail-lenwi dŵr
Nac oes
Nac oes
Nac oes
Oes
Nac oes
Nac oes
Nac oes
Oes
Oes
Nac oes