Skip to main content

Arolwg

Trysor tragwyddol 

Os oes gwell safle crefyddol sy’n wir addas i fywyd mynachaidd, ar dir gwyllt ymhell i ffwrdd o brysurdeb dynol ryw, hoffem wybod amdano. Dyna a ddywedodd Giraldus Cambrensis, Gerallt Gymro, y teithiwr a chroniclydd o’r 12fed ganrif. Mae Llanddewi Nant Hodni anghysbell, dan glo mewn lleoliad dramatig yn Nyffryn Ewias islaw ffindir tywyll y Mynydd Du sy’n codi’n sydyn o’r adfail atgofus hwn, yn dal i dywynnu’r ysbryd hwnnw o arwahanrwydd a myfyrdod.

Sylfaenodd y marchog Normanaidd William de Lacy feudwyfa yma ac yntau - yn annodweddiadol o’r oes - wedi cefnu ar ryfel a choleddu crefydd. Erbyn 1118 roedd Llanddewi Nant Hodni yn fynachlog o ganonau Awstinaidd, a barhaodd nes ei ddarostwng ym 1539.

Er ei fod bellach yn adfail 900 mlwydd oed, hawdd yw gweld o’r olion helaeth hyn fod Llanddewi Nant Hodni ymhlith adeiladau canoloesol gwychaf Cymru. Yn benodol, mae ei wychder blaenorol wedi goroesi yn y gwaith carreg coch â’i addurniadau helaeth a’r rhes ragorol o fynedfeydd bwaog pigfain, sy’n fframio golygfa sydd heb newid rhyw lawer ers oes de Lacy.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Cŵn tywys yn unig icon Mynediad i feiciau icon Maes parcio icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Cŵn tywys yn unig.

Y tu allan i dir y priordy mae ardal gyfeillgar i gŵn gyda digon o deithiau cerdded.

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.

Ceir mynediad o fewn pellter byr i'r maes parcio (tua 100 metr).

Mynedaid cyfyngedig i gadeiriau olwyn.

Lleoedd parcio ar gyfer tua  30 o geir, nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anabl.

 

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
9m (14.5km) i’r Gog. o’r Fenni, oddi ar yr A465.
Rheilffordd
Y Fenni 9m (14.5km).
Beic
RBC Llwybr Rhif 42 (175 llath/160m)

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50