Castell y Grysmwnt
Cawr ar y ffin
Mae Castell y Grysmwnt yn aelod o driawd enwog o gadarnleoedd. Ynghyd ag Ynysgynwraidd a’r Castell Gwyn, mae’n un o ‘Dri Chastell Gwent’ a adeiladwyd gan y Normaniaid i reoli rhan allweddol o ffindir trwblus. Cafodd y cadarnle pridd a choed gwreiddiol, a adeiladwyd ar gros mhont (Ffrangeg am ‘fryn mawr’), ei ddisodli’n ddiweddarach â charreg. Cafodd fywyd gweithgar.
Yn y 13eg ganrif cafodd ei ailadeiladu gan gynnwys y porthdy a’r tyrau cylchol. Yn sgil ailfodelu ganrif yn ddiweddarach, cafodd Grysmwnt randai yn addas i aelwyd fonheddig, ond erbyn y 15fed ganrif roedd y castell yn ei chanol hi eto, dan warchae yn y gwrthryfel dan arweinydd carismatig y Cymry, Owain Glyndŵr.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Ebrill - 31st Mawrth | 10am–4pm |
---|---|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
Gwybodaeth i ymwelwyr
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 2 – Hawdd
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Iechyd a Diogelwch
Ar ôl croesi giât, mae taith gerdded fer 5 munud i bont y castell. Mae'r llwybr glaswelltog hwn yn anwastad a gall fod yn llithrig/mwdlyd yn ystod tywydd gwael. Mae rhai ardaloedd o fewn y castell yn anwastad.
Mae cyfleoedd i archwilio lefelau uchaf y castell gan ddefnyddio'r grisiau a'r ardaloedd gwylio dynodedig. Mae'r grisiau'n hen a gallant fod yn anwastad mewn mannau. Defnyddiwch y canllawiau a ddarperir. Gall y grisiau fod yn llithrig pan fydd yn wlyb.
Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag cwympo mewn mannau penodol. Peidiwch â dringo dros na drwy unrhyw reiliau ac ati sydd wedi’u gosod.
Peidiwch â dringo ar y castell, yn naturiol mae yna ardaloedd lle mae disgynfeydd cudd. Gall dringo arwain at anaf difrifol. Fel gyda phob heneb adfeiliedig mae risg bob amser o gerrig yn cwympo. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Peidiwch â dringo ar y castell, yn naturiol mae yna ardaloedd lle mae disgynfeydd cudd.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Fel gyda phob heneb adfeiliedig mae risg bob amser o gerrig yn cwympo. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol. Cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Cwymp sydyn
Wyneb llithrig neu anwastad
Cerrig yn disgyn
Cyfarwyddiadau
Google MapCod post NP7 8EP
Dim maes parcio dynodedig.
Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn