Castell Ynysgynwraidd
Hysbysiad ymwelwyr
O ddydd Llun, 14 Rhagfyr, bydd yr holl henebion sydd wedi’u staffio a heb staff ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â chau pob atyniad awyr agored yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad ysgrifenedig: diweddaru’r cynllun rheoli Covid-19 yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ewch i: llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddarur-cynllun-rheoli-covid-19-yng-nghymru
Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl yn bersonol, beth am archwilio ein byd 3D o safleoedd Cadw …
Arolwg
Caer ganoloesol fawr a chanddi dŵr canolog sylweddol
Yn un o ‘Dri Chastell Gwent’ (ynghyd â Grysmwnt a’r Castell Gwyn) a sylfaenwyd gan yr arglwydd Normanaidd William fitz Osbern tua dechrau’r 12fed ganrif, mae olion Ynysgynwraidd a welwn heddiw yn tarddu o gaer ddiweddarach a adeiladwyd yn y 13eg ganrif gan Hubert de Burgh. Mae waliau’r castell, sydd mewn cyflwr da, yn amgylchynu gorthwr crwn, yn debyg i’r rheini a welir ym Mronllys a Thretŵr. Fe’i hadeiladwyd ar domen bridd, ac roedd y strwythur cadarn hwn yn llinell amddiffyn olaf pe byddai’r castell dan ymosodiad.
Rhyngddynt, roedd y Tri Chastell yn rheoli ardal fawr o ffindir gwrthdrawiadol rhwng Afon Gwy a’r Mynydd Du, ac Ynysgynwraidd yn hawlio safle strategol ar lannau afon Mynwy uwchben un o’r prif lwybrau rhwng Cymru a Lloegr.
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Cyfleusterau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Mae ardal parcio fechan ar gael ar gyfer tua 6 char y tu blaen i'r castell.
Nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anabl.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.