Skip to main content

Arolwg

Ffos mewn cyflwr da yn amddiffyn maenor ddiflanedig

Mae rhai pethau’n edrych yn well o’u gweld ymhell oddi fry nag o’r ddaear. Rhaid bod Hen Gwrt yn un o’r rhain. Pe gallech ei weld oddi uwch, byddech yn gweld yn gwbl glir amlinelliad sgwâr a thwt yr hyn a arferai fod yn safle maenorol canoloesol, yn ôl pob tebyg. Mae’r faenor wedi hen fynd, ond mae ei ffos a’i hochrau sgwâr yno o hyd, mewn cyflwr syndod o dda.

Yn ôl pob tebyg, roedd Hen Gwrt yn eiddo i esgobion Llandaf yn y 13eg ganrif a’r 14eg ganrif, cyn ei ddefnyddio’n nes ymlaen yn llety hela.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Cyfarwyddiadau

Ffordd
1/4m (0.4km) i’r Dwy. Gog. Ddwy. o Landeilo Gresynni, oddi ar y B4233 7m (11.3km), i’r Dwy. o’r Fenni.
Rheilffordd
Fenni 9m (14.5km).
Beic
RBC Llwybr Rhif 42 (4.4m/7km)

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50