Castell Bronllys
Arolwg
Tŵr carreg cadarn a chanddo hanes cythryblus
Wedi’i adeiladu am y tro cyntaf yn gastell ‘tomen a beili’ sylfaenol tua diwedd yr 11eg ganrif neu ddechrau’r 12fed ganrif, mae tŵr carreg Castell Bronllys sydd dros ben yn dyddio o’r 13eg ganrif. Gallwch ddringo tri llawr y tŵr o hyd, lle cewch olygfeydd pellgyrhaeddol o’r lloriau uchaf i gael syniad da o bwysigrwydd strategol y safle – yn sgil ei leoliad yn nhiriogaeth ddadleuol gororau’r Mers, trosglwyddwyd y castell rhwng dwylo’r Saeson a’r Cymry nifer o weithiau dros y canrifoedd.
Fe’i hatgyweiriwyd tua dechrau’r 15fed ganrif mewn ymateb i’r gwrthryfel brodorol dan arweinyddiaeth Owain Glyndŵr cyn mynd â’i ben iddo. Ochr yn ochr â’r tŵr, mae gweddillion waliau a’r ffos ddofn i’w gweld o hyd.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Cyfleusterau
Cyfarwyddiadau
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.