Olion gwledig allbost milwrol pwysig
O ystyried ei leoliad llonydd ar dir fferm ger Aberhonddu heddiw, ni ddyfalech byth yr arferai’r Gaer fod ymhlith caerau mewndirol mwyaf y Rhufeiniaid ac yn gyswllt hanfodol yn rhwydwaith amddiffynnol y meddianwyr yng Nghymru. Wedi’i sylfaenu tua 75 OC, fe’i gosodwyd mewn safle strategol lle mae dwy ffordd bwysig yn cwrdd ac fe’i gweithredid gan lengfilwyr tra hyfforddedig o Gatrawd Marchoglu Vettonia o Sbaen. Yn oes y Rhufeiniaid roedd yma safle prysur, a chanddo warchodfa fawr, ysgubor a baddondy wedi’i wresogi.
Erbyn hyn gallwch weld olion nifer o dyrau amddiffynnol, ochr yn ochr â dau borth mawr a waliau’n sefyll 8 troedfedd / 2.4m o uchder mewn mannau.
| 1st Ebrill - 31st Mawrth | 10am-4pm |
|---|---|
|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Mae’r safle ar fferm sy’n gweithio felly cyfyngir mynediad yn ystod y tymor tyfu |
|
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 3 — Cymedrol
Polisi dronau
Dim ysmygu
Iechyd a Diogelwch
Rhaid bod yn ofalus a chymryd sylw wrth ymweld â'r heneb hon. Bydd yn agored i'r elfennau naturiol yn rheolaidd a gall fod yn llithrig neu'n fwdlyd o dan draed.
Rhaid i chi ystyried pa esgidiau sy’n addas ar gyfer y tymor a'r math o heneb cyn eich ymweliad. Dim ond yn ystod yr oriau agor penodol y gallwch fynd yno, mae'r rhain wedi'u dewis ar gyfer eich diogelwch h.y. lefel briodol o olau.
Mae llawer o'n henebion mewn lleoliadau uchel, felly rhaid rhoi sylw hefyd i'r ardaloedd cyfagos, y cloddiau a’r ffosydd wrth ymweld.
Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag disgyn mewn mannau penodol. Peidiwch â dringo dros unrhyw reiliau ac ati sydd wedi’u gosod, na dringo drwyddynt.
Dylid defnyddio unrhyw ganllaw sydd yno i'ch helpu i ddringo a dod lawr y grisiau hanesyddol yn ddiogel, gan y gall y rhain fod yn anwastad ac o wahanol uchder.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Efallai y bydd mynediad yn cael ei rannu neu bod tir fferm cyfagos a allai gynnwys gwartheg pori neu anifeiliaid fferm.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Camau serth ac anwastad
Cwymp sydyn
Wyneb llithrig neu anwastad
Cerrig yn disgyn
Mae mynedfa'r safle ar ben deheuol y ffordd i fferm 'Y Gaer'
Dim mynediad i gerbydau i'r safle
Dim maes parcio dynodedig.
what3words: ///rhesymais.ffurfiau.ysgrifennaf
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol