Tŷ’r Gweithiwr
Hysbysiad i Ymwelwyr
Mae ein Tŷ’r Gweithiwr ar gau ar hyn o bryd i ganiatáu i'n tîm i gynnal rhaglen atgyweirio a chadwriaethol lawn.
Edrychwch ar ein tudalen ‘I ble hoffech chi fynd?‘ — mae 129 o safleoedd eraill i chi eu darganfod.
Capsiwl amser o derasau
Mae Cadw yn gofalu am holl orffennol Cymru – sy’n cynnwys bythynnod diwydiannol yn ogystal ag adfeilion hynafol. Mae Tŷ’r Gweithiwr yng Nghwmdâr uwchben Parc Gwledig Cwm Dâr – a oedd yn bwll glo ar un adeg, ond sydd bellach yn las unwaith eto – wedi goroesi megis capsiwl amser, i’n hatgoffa o fywyd teulu mwyngloddio yn y 19eg ganrif. Mae’n hynod o ddiledryw, a chanddo le tân haearn bwrw o 1854 lle byddai’r bwyd yn cael ei goginio, pantri ynghyd â llechen a grisiau cornel carreg yn arwain at yr ardaloedd cysgu cyfyng. Mewn rhes o dai teras sy’n nodweddiadol – yn eiconig hyd yn oed – o gymoedd diwydiannol de Cymru, mae’n cael ei ddiogelu a’i adfer â thechnegau traddodiadol.
Nid yw’r bwthyn ar agor eto i’r cyhoedd, ac anogir ymwelwyr i ddefnyddio’r Parc Gwledig a’i gyfleusterau i ymwelwyr yn ganolfan i archwilio treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal. I gael cipolwg y tu mewn i fythynnod gweithwyr, ewch i un arall o’n safleoedd yng nghymoedd De Cymru: Gwaith Haearn arloesol Blaenafon.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1 Ebrill – 31 Mawrth
|
Mae ein Tŷ’r Gweithiwr ar gau ar hyn o bryd i ganiatáu i'n tîm i gynnal rhaglen atgyweirio a chadwriaethol lawn. |
---|---|
Cyfarwyddiadau
Google MapCod post CF44 8UE